Bu Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, yn cwrdd â nyrsys dan hyfforddiant a chafodd daith o’r Ganolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM) ar ymweliad diweddar â’r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Bu Prif Weinidog Cymru’n cwrdd â myfyrwyr o ystod eang o arbenigeddau nyrsio gan gynnwys nyrsio oedolion, nyrsio o ran dysgu ac anableddau a nyrsio iechyd meddwl mewn sesiwn lle cafodd y myfyrwyr gyfle i rannu eu barn a gofyn cwestiynau iddi.
Meddai’r Athro Jayne Cutter, Pennaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Roedd hi’n bleser cael croesawu Prif Weinidog Cymru i’r Gyfadran. Cymerodd amser i siarad â’r nyrsys dan hyfforddiant, gan ddangos ei gwerthfawrogiad ohonynt a’r parch sydd ganddi at y proffesiwn nyrsio gan roi atebion ystyriol i’w cwestiynau.”
Bu Prif Weinidog Cymru hefyd ar daith o SUSIM, ystafell efelychu â wal ymdrochi wedi’u cefnogi gan dîm o dechnolegwyr efelychu ac academyddion arbenigol lle gall myfyrwyr gael y cyfle i ddysgu ac ymarfer sgiliau hanfodol a gwaith tîm drwy ystod o sefyllfaoedd bywyd go iawn wedi’u hefelychu. Bu’n gwylio sefyllfaoedd hyfforddi mewn theatrau llawdriniaeth, wardiau yn ogystal â lleoliadau cymunedol.
Meddai Pennaeth Efelychu (SUSIM) y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, yr Athro Cysylltiol Jo Davies: “Roedd diddordeb mawr gan Brif Weinidog Cymru mewn dysgu mwy am SUSIM sy’n rhoi Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran addysg gofal iechyd yn y DU. Buom yn trafod sut mae myfyrwyr ar draws ein rhaglenni gofal iechyd yn cydweithio ac yn ennill profiad gwerthfawr mewn gwaith tîm amlddisgyblaethol gan adlewyrchu’n agos yr amgylchedd cydweithredol y byddan nhw’n gweithio ynddo yn eu gyrfaoedd gofal iechyd proffesiynol.”
Rhagor o wybodaeth am gyrsiau gofal iechyd ym Mhrifysgol Abertawe
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.