O ffermydd teuluol i’ch plât – mae wyth o ffermwyr o Ogledd Cymru’n gobeithio elwa ar y farchnad ‘prydau parod’ cynyddol, diolch i beli cig oen Cymreig gyda sawsiau

Mae’n amser cyffrous i gynhyrchwyr defaid yng Ngogledd Cymru sy’n cydweithio gyda chwmni prosesu bwyd gwerth miliynau, Roberts of Port Dinorwic, yn eu hymgais i gyflwyno cig oen Cymru (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) (PGI) o’r safon uchaf i farchnad y DU mewn amrywiaeth newydd o brydau parod.

Dywedodd Ms Miriam Williams, Cyfarwyddwraig cwmni Roberts, sy’n cyflenwi cwmnïau gwasanaeth bwyd, siopau manwerthu, tafarndai, bwytai a grwpiau hamdden drwy’r Deyrnas Unedig, wrth y grŵp y gallai eu cig oen safonol fod yn un o gynhwysion craidd perffaith y farchnad prydau parod sy’n tyfu’n gyflym.

Daeth ‘Ffermydd Teuluol – ‘Family Farms’, yr enw a fabwysiadwyd gan y grŵp fel brand, at ei gilydd am y tro cyntaf y llynedd, diolch i gymorth gan raglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio, sy’n cefnogi ffermwyr i ddatblygu syniadau i’w helpu i gynnal busnesau cynaliadwy, hyfyw.

Aeth Aaron Hughes ati i sefydlu’r grŵp Agrisgôp mewn ymateb i bryderon yn y diwydiant fod gostyngiad sylweddol bob blwyddyn yn nifer y bobl a oedd yn bwyta cig oen yn y Deyrnas Unedig a gwyddai am nifer o ffermwyr a oedd yn poeni sut gallai hynny effeithio ar hyfywedd eu busnesau yn y dyfodol.

“Roedd pob un ohonom yn cynhyrchu cig oen o safon, ond er mwyn cynyddu lefel gwerthiant, roedd angen i ni ystyried y ffordd orau i ychwanegu gwerth trwy ymchwilio i wahanol opsiynau prosesu a chyfleoedd yn y farchnad,” meddai Michael Jones, aelod o’r grŵp, sy’n ffermio yn Llandegai ger Bangor.

“Roedd y cymorth cychwynnol hwnnw gan Agrisgôp yn allweddol i’n datblygiad. Nid yn unig cawsom fanteisio ar wasanaethau eraill gan Cyswllt Ffermio a oedd yn cynnig cymhorthdal, fel cyngor technegol a busnes a chynllunio rheolaeth maeth, ond cyfeiriodd Aaron ni at sefydliadau cymorth eraill ac arbenigwyr busnes a roddodd yr hyder a’r wybodaeth i ni baratoi ein cynllun busnes ein hunain,” meddai Mr. Jones.

Mae’r grŵp, a gafodd sylw’n ddiweddar fel un o’r straeon llwyddiant mewn rhaglenni teledu ar Gymru ar ôl datganoli, a gyflwynwyd gan Huw Edwards, yn teimlo bod y gwasanaethau cymorth busnes i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yng Nghymru, a ariennir drwy Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn amhrisiadwy.

Cawsant grant i gynnal ymchwil cyn-fasnachol i’r farchnad gan Conwy Cynhaliol, sy’n gyfrifol am greu dyfodol llwyddiannus i gefn gwlad Conwy. Yng Nghanolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni cawsant gymorth i wneud y dewis terfynol, sef peli a byrgyrs cig o blith nifer fach o gynhyrchion cig oen a hefyd cafwyd mynediad at gyfleusterau prosesu. Cynigiwyd cymorth gan Cywain, prif asiantaeth cymorth marchnata bwyd yng Nghymru, ar sut i frandio a phecynnu a rhoddwyd cymorth i brofi’r cynnyrch ar y farchnad a lansio eu peli a’u byrgyrs cig oen mewn sioeau amaethyddol a digwyddiadau bwyd yn ystod yr haf hwn. Hefyd roedd cynhyrchion y grŵp ar stondin HCC yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae Mr. Jones a holl aelodau eraill y grŵp yn cytuno bod elwa ar arbenigedd cwmni prosesu lleol wedi rhoi ymdeimlad calonogol dros ben ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn ddiolchgar am gael gweithio mewn partneriaeth â’r cwmni lleol hynod o lwyddiannus hwn, ac rydym yn optimistaidd ynglŷn â’r posibilrwydd o gynyddu nifer yr ŵyn yr ydym yn eu cadw, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd i gynhyrchwyr cig oen PGI o’r safon gorau drwy Gymru,” meddai Mr. Jones.

“Rydym yn edrych ymlaen i dreialu nifer o brydau parod, a fydd yn cael eu gweini gyda dewis o sawsiau blasus yn cynnwys rhosmari a gwin coch, blas cyrri a Morocaidd i rai o’u prif brynwyr yn y Deyrnas Unedig.

Ychwanegodd Ms Miriam Williams,

“Dyddiau cynnar ydi hi o hyd, ond rydym wedi derbyn ymateb positif gan nifer o ein cwsmeriaid mwyaf”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page