Cyhoeddwyd y bydd Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2018 yn cael ei chynnal yn Llanelli.
Mae’r trefnwyr wedi cydweithio â Chyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phartneriaid eraill i ddod â’r ŵyl i’r dref, gan gadarnhau enw da Llanelli fel canolbwynt diwylliannol.
Digwyddiad blynyddol yw’r Ŵyl sy’n dathlu doniau darlledu a ffilm o’r Alban, Iwerddon, Ynys Manaw, Cernyw, Llydaw a Chymru, a hynny dros dri diwrnod.
Cefnogir yr ŵyl gan sefydliadau o feysydd darlledu, ffilm, diwylliant a datblygu economaidd, ac mae’n denu pobl o bwys sy’n gweithio ar ffilmiau annibynnol a masnachol, rhaglenni teledu a hysbysebion.
Bydd y dref yn dod yn ganolbwynt i unrhyw un sy’n gweithio yn y cyfryngau ac sy’n cael ei ysbrydoli gan y maes, a bydd seremoni wobrwyo, cinio gala a gweithgareddau gan gynnwys anerchiadau arbennig, gweithdai a seminarau.
Disgwylir i’r digwyddiad roi hwb o ryw £200,000 i’r economi leol, gan fod o fudd i fusnesau twristiaeth a lletygarwch yn benodol.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Pleser o’r mwyaf yw cael croesawu’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd i Sir Gaerfyrddin. Gweithion ni’n galed â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phartneriaid eraill i ddod â’r ŵyl hon i Lanelli, yn wyneb cystadleuaeth gref gan eraill.
“Dyma gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd eisoes ar gael yn Sir Gaerfyrddin o ran y cyfryngau, gan gynnwys y cyfleoedd sy’n cael eu creu gan ddatblygiad Yr Egin yng Nghaerfyrddin ac adleoli S4C.
“Bydd yr ŵyl yn dod ag amrywiaeth eang o bobl ddawnus at ei gilydd i ddathlu’r cyfryngau a diwylliant a bydd yn agor y drysau i lawer o bobl wrth iddynt rwydweithio â phobl o’r un anian. Bydd hefyd, heb os, yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc sy’n dechrau gyrfa ym myd y cyfryngau.
“Mae’r digwyddiad hwn yn cadarnhau safle Llanelli fel canolfan bwysig ar gyfer digwyddiadau a chynadleddau a chanddi sector diwylliannol a thwristiaeth bywiog a llewyrchus. Mae gan y dref ddigon i’w gynnig, megis cyfleusterau pwrpasol Theatr y Ffwrnes a Stiwdio Stepni, amrywiaeth gynyddol o atyniadau i ymwelwyr megis Plas Llanelly, Clwb Golff Machynys, ynghyd â chynnydd o ran nifer y gwelyau a llety o safon i ymwelwyr.
“Rydym yn falch fod trefnwyr yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn cydnabod amrywiaeth a maint y cyfleoedd a gynigir yma yn Sir Gaerfyrddin. Edrychwn ymlaen at wythnos fywiog o ddigwyddiadau ym mis Mai 2018.”
Cynhelir Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2018 yn Llanelli o ddydd Mercher, 2 Mai hyd ddydd Gwener, 4 Mai. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan yr ŵyl www.celticmediafestival.co.uk
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.