Mae’r tywydd yn oeri a bydd mwy o bobl yn troi’r thermostat i fyny neu’n cynnau tân i gael rhagor o wres.
Ond mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog pobl i sicrhau bod eu gwresogyddion nwy a thanwydd solet yn ddiogel ac wedi cael gwasanaeth.
Mae timau o’r is-adrannau Diogelu’r Cyhoedd, Gwasanaethau Eiddo a Thai i gyd yn chwarae eu rhan drwy annog tenantiaid, landlordiaid a pherchnogion tai i sicrhau bod eu bwyleri a’u tanau nwy a thanwydd solet yn cael eu cynnal a’u cadw’n iawn.
Gallai methu â gwneud hyn fod yn berygl bywyd – ar gyfartaledd, mae 50 o bobl y flwyddyn ledled y Deyrnas Unedig yn marw drwy gael eu gwenwyno gan garbon monocsid o ganlyniad i offer gwresogi sy’n ddiffygiol.
Mae nwy carbon monocsid yn cael ei alw’n ‘lladdwr tawel’ gan nad oes ganddo arogl, lliw na blas, sy’n golygu ei fod yn anodd ei synhwyro.
Gall offer sy’n defnyddio tanwyddau ffosil, megis nwy, glo, coed neu olew, ollwng carbon monocsid os nad ydynt yn gweithio’n iawn, os yw’r ffliw wedi cael ei rhwystro, neu os nad yw’r ystafell wedi cael ei hawyru’n gywir.
Ond mae gwaith cynnal a chadw blynyddol syml a gwiriadau rheolaidd yn ddigon i sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel.
Mae larymau carbon monocsid, y gellir eu prynu am dâl bychan, hefyd yn gallu darparu tawelwch meddwl ychwanegol, gan seinio rhybudd hanfodol bwysig os bydd y nwy yn dechrau gollwng yn y cartref.
Yn flaenorol, mae’r cyngor wedi gweithredu gwarant i gael mynediad i gartref tenant yn Llanelli ar ôl methu yn eu hymdrechion i wasanaethu ei fwyler nwy, gan ddangos pa mor bwysig yw sicrhau bod offer gwresogi yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr aelod o’r bwrdd gweithredol dros ddiogelu’r cyhoedd: “Ni allwch roi pris ar fywyd eich teulu – sicrhewch fod eich offer yn cael gwasanaeth cyn y gaeaf er diogelwch a thawelwch meddwl.
“Ar yr adeg hon, rydym hefyd yn atgoffa landlordiaid o’u cyfrifoldebau tuag at eu tenantiaid, ac rydym yn annog tenantiaid i ganiatáu i landlordiaid a chontractwyr wneud gwaith gwasanaethu yn ddi-oed.”
Mae arwyddion cynnar gwenwyn carbon monocsid yn cynnwys teimlo eich bod ar fin llewygu neu bennau tost.
Os yw carbon monocsid yn cael ei synhwyro, dylech adael yr ystafell ar unwaith, agor y drysau a’r ffenestri a galw am gymorth.
Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch carbon monocsid a gwasanaethu offer ar gael ar wefan y Cyngor, www.sirgar.llyw.cymru
Yn fyr, os oes gennych dân tanwydd solet:
· Dylech sgubo simneiau o leiaf unwaith y flwyddyn
· Dylech lanhau’r gyddfblat a’r ffliw bob pythefnos ac ar ôl glaw trwm a gwyntoedd cryfion
· Dylech wacáu’r blwch lludw o leiaf unwaith y dydd
· I losgi’n ddiogel, dylai’r coed fod wedi cael digon o amser i sychu’n iawn, ni ddylent gynnwys llawer o resin ac ni ddylent fod wedi’u paentio na’u farnisio.
· Mae angen awyru ystafelloedd gan fod angen awyr iach er mwyn i dân losgi’n ddiogel.