Mae diwrnod golff elusennol a gynhaliwyd ddydd Gwener 19 Mai yng Nghlwb Golff Glynhir yn Llandybie wedi codi swm gwych o £2,775 ar gyfer y Gronfa Dymuniadau

Mae’r Gronfa Dymuniadau yn ymgyrch sy’n cael ei rhedeg gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac yn cael ei chefnogi gan Rygbi’r Scarlets. Mae’r ymgyrch yn codi arian sy’n galluogi’r Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig i greu atgofion parhaol i’r plant a’r bobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd ac sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd.

 

Roedd y trefnydd Rhys Kemp, sy’n gweithio i’r Bwrdd Iechyd, wedi ei syfrdanu gan y gefnogaeth i’r digwyddiad a’r swm o arian a godwyd.

 

Dywedodd Rhys: “Bu’r codi arian yn llwyddiannus iawn a chafwyd adborth cadarnhaol gan bawb a fynychodd.

 

“Fe wnaethon ni godi llawer mwy na’r disgwyl. Gwerthfawrogwyd y gefnogaeth a gefais gan Robert O’Connell a Paul Evans yn fawr gan iddynt roi’r rhyddid a’r cymorth i mi wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl staff Ystadau a Chydymffurfiaeth a fynychodd yn ogystal â’r contractwyr am gefnogi’r digwyddiad – a gobeithio ei gefnogi yn y dyfodol.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Dymuniadau ewch i:

https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/y-gronfa-dymuniadau/

 

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

 

We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: