Taith tractorau yn codi dros £10,000 ar gyfer unedau cemotherapi

Mae digwyddiad blynyddol Grŵp Taith Tractorau Felinfach wedi codi £5,405 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili a £5,405 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.

 

Sefydlwyd Grŵp Taith Tractorau Felinfach dros 10 mlynedd yn ôl gan unigolion yn Felinfach, Llanbedr Pont Steffan a’r cyffiniau. Mae’r grŵp wedi codi dros £80,000 i wahanol elusennau dros y blynyddoedd.

 

Cynhaliwyd y 10fed taith tractoau blynyddol ym mis Ebrill 2023. Cymerodd dros 140 o dractorau ran yn y daith gron 25 milltir o hyd, gan ddechrau yn Felinfach a theithio drwy’r pentrefi lleol.

 

Meddai Aled Williams: “Fe ddewison ni roi rhodd i’r ddwy uned gan fod Emyr Hughes, preswylydd lleol a ffrind i wahanol aelodau’r grŵp, wedi derbyn triniaeth a gofal yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

“Diolch i’r holl drefnwyr a weithiodd mor galed i wneud y daith yn llwyddiant a phawb a gefnogodd. Cynhelir ein taith nesaf ar 28 Ebrill 2024.”

 

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i

www.hywelddahealthcharities.org.uk


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page