Diolch i roddion hael, mae sganiwr fasgwlaidd newydd gwerth £30,000 wedi’i brynu ar gyfer Ysbyty Tywysog Philip.
Mae’r sganiwr newydd wedi ei ariannu £20,000 gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a £10,000 gan Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Llanelli a’r Cylch.
Defnyddir y sganiwr cludadwy newydd i drin cleifion yn Hywel Dda sydd â phroblemau fasgwlaidd fel gwythiennau chwyddedig. Mae’n galluogi’r gwasanaeth sglerotherapi fasgwlaidd yn Ysbyty Tywysog Philip i gynnig triniaethau’n lleol, ond yn flaenorol, roedd cleifion Hywel Dda yn teithio i Fae Abertawe i gael triniaethau o’r fath.
Dywedodd Caroline Lewis, Rheolwr Darparu Gwasanaeth – Clust, Trwyn a Gwddf a Llawfeddygaeth Gyffredinol: “Rydym mor falch gyda’r offer newydd a fydd yn ein galluogi i ddarparu triniaeth yn lleol.
“Bydd y sganiwr yn gwella profiad y claf yn fawr, gan ddefnyddio technegau modern sy’n atal yr angen am anaestheteg ac adferiad hirfaith i’r claf.”
Dywedodd Martin Davies, Cadeirydd Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Llanelli a’r Cylch: “Mae Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty Tywysog Philip wedi cefnogi Ysbyty Tywysog Philip ers dros 50 mlynedd drwy ddarparu cyllid ar gyfer offer sy’n gwella’r gwasanaethau y gall y staff eu rhoi i gleifion er mwyn gwella eu harhosiad.
“Cysylltwyd â ni i gyfrannu tuag at gost y Sganiwr Fasgwlaidd ac nid oedd unrhyw oedi cyn rhoi £10,000 tuag at gyfanswm y gost. Dylid rhoi cydnabyddiaeth hefyd i bobl Llanelli a’r rhanbarth ehangach am eu haelioni parhaus mewn rhoddion i gefnogi eu hysbyty lleol.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i
www.hywelddahealthcharities.org.uk
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.