Ymgynghori’n parhau ar gyfer adeilad ysgol newydd

Llanerch Field, Llanelli

Mae’r broses ymgynghori ynglŷn â chael adeilad newydd gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer Ysgol Dewi Sant yn parhau.

Gofynnir i bobl roi eu barn ar adeilad arfaethedig gwerth £9.1miliwn yn Llanerch i gymryd lle safle presennol Ysgol Dewi Sant ac adeiladau’r ysgol nad ydynt yn cyrraedd safonau Sir Gaerfyrddin.

Byddai adeilad arfaethedig yr ysgol, a fyddai’n fodern ac o’r safon flaenaf, yn darparu ar gyfer y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, gyda 420 o leoedd addysg gynradd a 60 o leoedd meithrin ar gael.

Byddai’r ysgol wedi’i hadeiladu dros ddau lawr gydag ystafelloedd dosbarth mwy o faint â chyfleusterau TG integredig, neuadd amlbwrpas a darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Byddai’n darparu nifer o fuddiannau cymunedol hefyd megis y maes parcio oddi ar y safle at ddefnydd yr ysgol a’r gymuned.

Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio ar gyfer yr Ysgol Dewi Sant newydd, byddai gwaith cynllunio yn dechrau ar ailddatblygu Ysgol Penygaer, a fyddai’n symud i safle presennol Ysgol Dewi Sant ar ôl i’r ysgol honno symud i’w chyfleuster newydd.    

Cynhelir yr ymgynghoriad tan 11 Hydref, a gall pobl gymryd rhan ar-lein neu ymweld â Llyfrgell Llanelli lle mae copïau caled ar gael.

Disgwylir y bydd cais cynllunio ffurfiol yn cael ei gyflwyno yn dilyn y cyfnod ymgynghori o bedair wythnos. Bydd yr adborth o’r ymgynghoriad yn cael ei grynhoi mewn adroddiad ymgynghori cyn cyflwyno cais cynllunio, a fydd yn ffurfio rhan o’r broses.

Byddai’r buddsoddiad mawr hwn yn rhan o Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, a gaiff ei hariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, drwy ei menter Ysgolion yr 21ainGanrif.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae’r broses ymgynghori yn hanfodol i helpu i lywio’r broses gwneud penderfyniad ac mae angen i ni gael cynifer o sylwadau â phosibl er mwyn gwneud penderfyniad cytbwys a theg.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page