Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth wedi’i ethol yn Is-Lywydd corff hawliau dynol Ewropeaidd

Mae arbenigwr ar gyfraith ymfudo a masnachu pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei ail-ethol i swydd flaenllaw gydag un o gyrff hawliau dynol pwysicaf Ewrop.

Mae’r Athro Ryszard Piotrowicz o Adran y Gyfraith a Throseddeg wedi cael ei ethol yn Is-Lywydd GRETA, sef Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl, sydd wedi’i leoli yn Strasbwrg.

Mae’r grŵp yn gyfrifol am asesu sut mae gwledydd Ewropeaidd yn cyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu pobl rhag cael eu masnachu i’w hecsbloetio’n rhywiol neu am eu llafur, yn ogystal â chloriannu’r camau y mae gwledydd yn eu cymryd i ddal ac erlyn y masnachwyr.

Etholwyd yr Athro Piotrowicz i GRETA yn wreiddiol yn 2012, cyn cael ei ethol yn Is-Lywydd yn 2017. Bydd yn gwasanaethu fel Is-Lywydd am dymor pellach o ddwy flynedd.

Yn sôn am gael ei ail-ethol, dywedodd yr Athro Ryszard Piotrowicz: “Rwy’n hynod falch o gael fy ethol gan fy nghydweithwyr yn GRETA i fod yn Is-Lywydd am ail dymor. Rwyf wedi bod yn aelod o GRETA am bron i saith mlynedd bellach, ac yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi ymweld â llawer o wledydd i asesu pa mor effeithiol yw eu cyfreithiau a’u polisïau gwrth-fasnachu, gan gynnwys yr Almaen, Gwlad Groeg, Denmarc, Malta, Kosovo, Macedonia, Azerbaijan a’r Weriniaeth Tsiec. Fel Is-Lywydd rwyf yn gyfrifol am gyfarwyddo gweithgareddau a blaenoriaethau’r Grŵp, gyda’r nod o sicrhau’r mesurau diogelu gorau posibl yn erbyn masnachu pobl i mewn i, ac o fewn, Ewrop.”  

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Ac yntau’n hanu o’r Alban, astudiodd yr Athro Piotrowicz ym Mhrifysgolion Dundee, Glasgow, Thessaloniki a Warsaw, yn ogystal ag astudio yn Sefydliad Materion Rhyngwladol Gwlad Pwyl yn Warsaw a Sefydliad Max-Planck y Gyfraith Ryngwladol yn Heidelberg.

Ar ôl cael ei Ddoethuriaeth yn 1987, aeth i fod yn ddarlithiwr ym Mhrifysgol Tasmania, gan aros am ddeng mlynedd ac yna cael ei benodi’n Ddeon ar Gyfadran y Gyfraith.

Cafodd Gadair yn y Gyfraith yn 1999 ac mae hefyd wedi dysgu’r gyfraith ryngwladol ym Mhrifysgolion Glasgow a Durham. Mae’n un o Gymrodorion Alexander-von-Humboldt a bu’n athro gwadd yn y gyfraith ryngwladol mewn sawl gwlad.

Mae’n arbenigo ar gyfraith ymfudo a’r gyfraith ddyngarol ryngwladol, ac ar hyn o bryd mae wrthi’n gweithio’n bennaf ar y materion cyfreithiol sy’n codi o fasnachu pobl.

Mae wedi cynghori cyrff rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol a chyrff anllywodraethol ar y materion hyn. Mae’n aelod o Grŵp Arweinyddiaeth Atal Caethwasiaeth Cymru a bu’n aelod o Grŵp y Comisiwn Ewropeaidd o Arbenigwyr ar Fasnachu Pobl o 2008-15.

Mae’r Athro Piotrowicz wedi gweithio’n eang â sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE), Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), Sefydliad Rhyngwladol Ymfudo (IOM) a’r UE.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page