Elusen GIG yn Helpu Greu Ardal Awyr Agored Fwy Croesawgar i Staff

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu seddi awyr agored newydd yn Ysbyty Glangwili i roi lle i feddygon, myfyrwyr meddygol a staff ymlacio yn ystod diwrnodau gwaith prysur.

 

Mae tri bwrdd picnic newydd wedi’u gosod y tu allan i’r Ganolfan Addysg Feddygol yn yr ysbyty, gan helpu i greu amgylchedd awyr agored pwrpasol a chyfforddus i’r rhai sy’n mynychu sesiynau hyfforddi ac yn gweithio ar draws y safle.

Dywedodd Nicky Pearce, Rheolwr Arweiniol Addysg Feddygol: “Mae meddygon a myfyrwyr meddygol yn aml yn treulio oriau hir mewn amgylcheddau dan bwysau uchel, felly mae cael mynediad at ofod awyr agored croesawgar lle gallant orffwys a chysylltu â chydweithwyr yn hynod bwysig.

“Bydd y byrddau picnic hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant staff a myfyrwyr sy’n defnyddio’r Ganolfan Addysg Feddygol a’r cyfleusterau gofal iechyd cyfagos. Rydym yn ddiolchgar iawn i gefnogwyr hael Elusennau Iechyd Hywel Dda am wneud y prosiect hwn yn bosibl.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn falch o ariannu amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.

 

You cannot copy any content of this page