Mae Hannah Rowlatt o Gaerdydd, sydd wedi cofrestru’n ddall a gyda chyflwr dirywiol ar ei golwg, yn dweud fod dysgu Cymraeg wedi trawsnewid ei bywyd.
Ar ôl i bandemig Covid-19 effeithio ar ei hannibyniaeth a’i hyder, mae addysg oedolion wedi ei helpu i ailgysylltu gydag eraill, ailddarganfod ei phenderfyniad a gwireddu’r hyn y gallai ddal ei gyflawni.
Nawr, mae Hannah yn helpu dysgwyr eraill sy’n ddall a sy’n gweld yn rhannol ledled Cymru drwy weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i wneud deunyddiau cwrs yn fwy hygyrch.
Yn Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd i RNIB Cymru, mae’n defnyddio darllenydd sgrîn ar ei gliniadur i gael mynediad i’w hastudiaethau Cymraeg.
“Fy ngobaith yw y caiff pobl eraill ddall sy’n ddall a sy’n gweld yn rhannol eu hannog i ymuno â dosbarth, manteisio o’r adnoddau gwell yma a phrofi llawenydd dysgu fel y gwnes i,” meddai Hannah.
I gydnabod ei thaith dysgu, enillodd wobr Siaradwr Newydd yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni a gyflwynir yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd ar 23 Medi. Mae’n un o 11 enillydd gwobr.
Yn uchafbwynt yr Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru – https://adultlearnersweek.wales/?lang=cy – sy’n rhedeg o 21 i 27 Medi, mae’r gwobrau yn cydnabod rhai sydd wedi dangos ymroddiad eithriadol i ddysgu. Caiff y gwobrau eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfle, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, meithrin hyder a helpu cymunedau i ddod yn egnïol a llwyddiannus.
Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy’n awyddus i ddechrau eu taith ddysgu, caiff cyrsiau blasu wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein eu cynnal drwy gydol mis Medi ac yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i fynd ati i ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, adeiladu sgiliau bywyd a gwella eu hansawdd bywyd.
“Roeddwn yn hapus i gael fy enwebu ond doeddwn i byth yn digwydd ennill, ac mae hynny’n gyffrous,” meddai Hannah. Gobeithio y bydd yn annog pobl eraill i ddilyn cwrs addysg oedolion.”
Dechreuodd ar gwrs Mynediad yn 2022, gan fod llawer o’i chydweithwyr yn siarad Cymraeg. Gan fynychu dosbarthiadau wythnosol, symudodd ymlaen i gwrs Sylfaen ac mae ar fin dechrau cwrs Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.
“Mae’r dosbarthiadau wedi cael effaith enfawr enfawr ar fy mywyd drwy ddatblygu sgil newydd i’w defnyddio yn y gwaith a gyda chyfeillion, a hefyd drwy fy atgoffa o’r hyn y gallaf ei wneud,” esboniodd Hannah. “Mae fy hyder ac annibyniaeth wedi tyfu fel canlyniad o fod mewn amgylchedd cefnogol.”
Gyda chefnogaeth ei thiwtor, a addasodd y cwrs i’w wneud yn hygyrch a chynhwysol, cafodd hefyd ei hannog gan ddysgwyr eraill ac mae wedi mwynhau’r hwyl a gawsant yn dysgu gyda’i gilydd.
“Mae cymryd rhan mewn addysg oedolion wedi fy ngalluogi i ailddarganfod fy hyder, penderfyniad ac, yn bwysicaf oll, fi fy hun. Mae gen i ffordd bell i fynd o hyd i ddatblygu fy sgiliau yn y Gymraeg ond mae’n gyffrous dechrau ar lefel nesaf y cwrs.
“Rwy’n credu y dylai pawb gael cyfle i ddysgu Cymraeg oherwydd ein bod yn byw yng Nghymru a hi yw ein iaith genedlaethol. Mae cymryd rhan mewn addysg oedolion yn fwy na dim ond y sgiliau rydych yn eu dysgu, mae hefyd am y profiad cadarnhaol a lles.”
Dywedodd Dr Sara Orwig-Palmer o Dysgu Cymraeg Caerdydd, a enwebodd Hannah am y wobr: “Gall dychwelyd i’r ystafell ddosbarth fel oedolyn fod yn anodd a gobeithiaf y bydd stori Hannah yn dangos yr amgylchedd croesawgar a chefnogol y gall tiwtoriaid a dysgwyr ei greu.
“Mae’n wych gweld sut mae Hannah wedi cymryd ei phrofiad personol o heriau hygyrchedd a throi hynny yn rhywbeth gwirioneddol gadarnhaol, gan ddefnyddio ei hangerdd i helpu i wella cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gyfer dysgwyr sy’n ddall, a sy’n gweld yn rhannol.”
Dywedodd Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol: “Mae’r hyn a gyflawnodd Hannah yn wir yn ysbrydoli. Mae ei hymroddiad i ddysgu Cymraeg, er yr heriau oedd yn ei hwynebu, yn dangos y gwydnwch, penderfyniad a’r hyder y gall addysg oedolion ei ryddhau.
“Yr hyn sy’n gwneud stori Hannah yn arbennig iawn yw iddi ddefnyddio ei phrofiad ei hun i helpu i wella cyfleoedd dysgu ar gyfer pobl eraill sy’n ddall ac sy’n gweld yn rhannol ledled Cymru.
“Mae addysg oedolion am gymaint mwy na dim ond ennill cymwysterau. Gall feithrin hyder, gwella llesiant a chreu cyfleoedd newydd. Mae taith Hannah yn enghraifft wych o’r effaith gadarnhaol y gall dysgu ei gael ar unigolion a hefyd ar gymunedau.”
Ychwanegodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Mae dysgu gydol oes yn cynnig cyfleoedd i bawb ohonom, p’un ai yw hynny i symud i yrfa newydd, dysgu sgil newydd, cefnogi ein iechyd a’n llesiant neu ddim ond gwneud rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau. Gall yr effaith fod yn drawsnewidiol a gallwn weld hynny drwy straeon ein enillwyr gwobrau.
“Mae ei hymroddiad i ddysgu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau a hefyd i’r rhai o’u hamgylch. Mae addysg oedolion yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac mae’n hanfodol cefnogi a dathlu oedolion yng Nghymru sy’n croesawu dysgu, gan weithiau oresgyn heriau personol sylweddol i wneud hynny. Mewn byd sy’n newid yn gyflym, mae’r neges i ddal ati i ddysgu yn bwysicach nag erioed.”
Gall unrhyw un a gafodd eu hysbrydoli gan daith Hannah gael mynediad am ddim i gyngor ac arweiniad drwy Cymru’n Gweithio i ymchwilio’r cyfleoedd dysgu a hyfforddiant sydd ar gael yn eu hardal.
I ganfod beth sy’n digwydd yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion ac i gael cyngor personol ar eich opsiynau dysgu eich hun a’r gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844 neu chwilio https://cymrungweithio.llyw.cymru.