Mae tîm hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin Chwaraeon a Hamdden Actif, yn falch o gyhoeddi bod ei brosiect, ‘Beat the Street’, wedi ennill gwobr fawreddog Ymgyrch Fwyaf Dylanwadol yng Ngwobrau Diwydiant Chwaraeon cyntaf Cymdeithas Chwaraeon Cymru.
‘Mae ‘Beat the Street’, sydd â’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn ardal Llanelli, wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned ac wedi cael ei gydnabod am ei ddull arloesol a’i ganlyniadau llwyddiannus.
Nod ymgyrch ‘Beat the Street’ oedd mynd i’r afael â lefelau uchel o anweithgarwch, iechyd meddwl gwael, gordewdra, a materion cysylltiedig fel clefyd y galon a diabetes. Er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect, ffurfiwyd grŵp llywio amlasiantaeth, yn cynnwys 20 partner o wahanol sectorau gan gynnwys hamdden, chwarae, addysg, teithio llesol, cymuned, adfywio, iechyd, datblygu chwaraeon, a chynghorau lleol.
Mae ‘Beat the Street’ gan Intelligent Health wedi cyflwyno cysyniad syml ond effeithiol. Cofrestrodd cyfranogwyr i dderbyn cerdyn gêm, yr oeddent yn ei ddefnyddio i dapio ar 61 o flychau mewn lleoliadau strategol yn Llanelli. Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded, rhedeg, sgwtera neu feicio, enillodd chwaraewyr bwyntiau a gwobrau gan hefyd archwilio eu hamgylchedd. Roedd yr ymgyrch yn manteisio ar bŵer technoleg ddigidol i greu her arloesol, i’r gymuned gyfan, sy’n seiliedig ar gêm a oedd yn annog plant, teuluoedd ac oedolion i fod yn egnïol a threulio amser yn yr awyr agored.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“‘Mae ‘Beat the Street’ wedi bod yn gatalydd ar gyfer cyfranogiad cymunedol a chydweithio ymhlith partneriaid a rhanddeiliaid allweddol. O ganlyniad i’r prosiect, sefydlwyd grŵp llywio ‘Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau Iechyd yn Llanelli’ i sicrhau gwaddol y prosiect a pharhau â’r gwaith o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.”
Roedd effaith y prosiect yn wirioneddol anhygoel. Mae dros 6,500 o unigolion, sef 13% o gyfanswm y boblogaeth, wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch, gan deithio 43,844 milltir ddi-fodur gyda’i gilydd. Mae hyn wedi arwain at amcangyfrif o ostyngiad o 12.04 tunnell mewn allyriadau CO2. Cyn cofrestru, roedd 40% o oedolion yn anweithgar, ond yn dilyn ‘Beat the Street’, dywedodd 45% o oedolion oedd yn anweithgar yn flaenorol eu bod yn fwy egnïol. Ar y cyfan, roedd gostyngiad o 6% yn nifer y cyfranogwyr a nododd ddiffyg gweithgarwch a chynnydd o 6% yn y rhai sy’n cyflawni 150+ munud o weithgarwch yr wythnos. Yn ogystal, roedd cynnydd o 24% yn yr ymweliadau â mannau gwyrdd o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect.
Un o ganlyniadau mwyaf arwyddocaol ‘Beat the Street’ oedd y gwelliant mewn bodlonrwydd bywyd a’r teimlad bod bywyd yn werth chweil ymhlith oedolion. Roedd cynnydd o 6% yn gyffredinol yng nghyfran yr oedolion oedd yn profi lefelau uchel neu uchel iawn o fodlonrwydd a’r teimlad bod bywyd yn werth chweil. Roedd canlyniadau’r prosiect hyd yn oed yn fwy trawiadol ar gyfer oedolion sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel, gyda chynnydd o 7% mewn lefelau bodlonrwydd a chynnydd rhyfeddol o 12% yn y teimlad bod bywyd yn werth chweil.
Roedd ystadegau ymgysylltu digidol y prosiect hefyd yn gadarnhaol iawn, a chafodd yr ymgyrch gefnogaeth gan Geraint Thomas, beiciwr enwog o Gymru, a roddodd ganmoliaeth i’r fenter am ei heffaith gadarnhaol ar y gymuned.
Roedd Actif a thîm cyfan y prosiect yn falch o dderbyn y wobr ‘ymgyrch fwyaf dylanwadol yng Ngwobrau Diwydiant Chwaraeon cyntaf erioed Cymdeithas Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty Parkgate, Caerdydd ddydd Iau 8 Mehefin. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i bŵer trawsnewidiol ymgysylltu cymunedol, partneriaethau cydweithredol, a dulliau arloesol o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae Actif yn parhau i fod yn ymrwymedig i’w genhadaeth o wella llesiant drwy ysbrydoli ein poblogaeth i fod yn egnïol am oes.
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.