Cynllun buddsoddi £138m i dde-orllewin Cymru

MAE cynllun buddsoddi rhanbarthol newydd yn cael ei lunio â’r nod o sicrhau cyllid gwerth bron £138m i dde-orllewin Cymru dros y tair blynedd nesaf.

Bydd y cynllun sy’n cael ei roi ynghyd yn awr gan bedwar awdurdod lleol y rhanbarth yn datgloi arian sydd eisoes wedi’i glustnodi ar gyfer Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Yn unol ag arweiniad Llywodraeth y DU, mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu drwy bartneriaethau strategol lleol sy’n cynnwys sefydliadau’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ym mhob sir.

I helpu i lunio’r cynllun ymhellach, bydd y pedwar awdurdod lleol yn gofyn am adborth gan bobl a busnesau lleol i ganfod pa themâu allweddol sydd bwysicaf i’w hardaloedd hwy.

Yn seiliedig ar yr adborth, caiff cynllun terfynol ei gyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 1 Awst am gymeradwyaeth derfynol yn yr hydref.

Nid yw awdurdodau lleol wedi derbyn unrhyw arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin eto. Nid yw arweiniad manwl gan Lywodraeth y DU ar sut caiff yr arian ei ddosbarthu i brosiectau wedi’i gadarnhau eto, er ffefrir proses gystadleuol.

Unwaith y sicrheir yr arian, bydd pob awdurdod lleol rhanbarthol yn rhoi gwybod i’w busnesau a sefydliadau eraill sut gallant wneud cais am yr arian.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth:

“Mae’r cyllid hwn gan Lywodraeth y DU eisoes wedi’i roi o’r neilltu ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, er mae angen cynllun buddsoddi rhanbarthol i’w ddatgloi.

“Mae’r cynllun yn cael ei baratoi nawr, er y caiff ei lywio ymhellach gan themâu allweddol a nodwyd gan bobl leol fel blaenoriaethau yn eu hardaloedd awdurdod lleol perthnasol ledled de-orllewin Cymru.

“Bydd busnesau a phreswylwyr ar draws yn rhanbarth yn cael gwybod am y cyfleodd ymgynghori. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i bobl pan fydd y cynllun rhanbarthol wedi’i gymeradwyo a phryd y gall busnesau a sefydliadau eraill ddechrau ymgeisio am gyllid.”

Meddai’r Cyng. Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Mae Sir Gâr yn edrych ymlaen at y cyfle cyllido cyffrous hwn ac i weithio’n lleol gyda’n cymunedau a’n busnesau er mwyn tyfu’r economi. Mae mwyafu twf cynaliadwy a swyddi ar gyfer ein sir yn un o’n blaenoriaethau allweddol.”

Ychwanegodd Cynghorydd Martyn Peters, Aelod Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio Economaidd a Chymunedau:

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid rhanbarthol a lleol i sicrhau bod yr arian sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yn cael effaith ar bobl a busnesau lleol. Rydym yn cryfhau ein trefniadau partneriaeth lleol ymhellach fel y gallwn roi’r rhaglen ar waith cyn gynted ag y bo’r cyllid ar gael.”

You cannot copy any content of this page