Y Cyngor yn cefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt

Yn dilyn glaw trwm na welwyd ei debyg o’r blaen ar 30 Rhagfyr a 2 Ionawr, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i gefnogi cymunedau a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Llansteffan a Glanyfferi.

O ran Llansteffan yn benodol, mae’r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru, ac mae gwaith cloddio wedi digwydd ar y traeth i liniaru effeithiau’r llifogydd cyn gynted â phosibl drwy annog llifddwr i ddianc yn fwy rhydd.

Gan ganolbwyntio i ddechrau ar waredu’r dŵr, defnyddiodd Dŵr Cymru bwmp yn Llansteffan, a chafodd adnoddau ychwanegol eu darparu gan y Cyngor.

Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y seilwaith draenio wedi methu. Mae maint y dŵr sydd wedi mynd i mewn i’n systemau dros gyfnod cymharol fyr yn fwy nag y gall y seilwaith a’r cyrsiau dŵr ddygymod ag ef, gan lifo dros lannau Nant Jac a boddi seilwaith draenio Cyngor Sir Caerfyrddin a Dŵr Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: “Mae lefelau llifddwr bellach wedi gostwng yn Llansteffan ac mewn mannau eraill yn gyffredinol, sydd wedi caniatáu i ni newid ein ffocws i waith adfer a glanhau yn ogystal â rhoi cymorth yn y gymuned lle bo modd i ymadfer yn dilyn y digwyddiad hwn. Byddem yn annog unrhyw un sy’n glanhau ar ôl llifogydd i ddilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd i’w weld ar ei wefan.

Mae ein timau priffyrdd yn gweithio i gynnal y rhwydwaith priffyrdd, sydd wedi cael ei ddifrodi’n sylweddol, ac mae gwaith atgyweirio eisoes wedi dechrau ar rannau o’r rhwydwaith i sicrhau bod modd cyrraedd cymunedau.

Hoffem sicrhau trigolion y bydd y Cyngor yn darparu cyngor a chymorth i’r rhai y mae llifogydd wedi effeithio’n sylweddol arnynt ac yn sylweddoli bod hwn yn gyfnod heriol iawn i’r rhai yr effeithir arnynt.

Rydym ni a sefydliadau partner yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda busnesau a chymunedau lleol i reoli perygl llifogydd ac addasu i newid yn yr hinsawdd”.

I gael cyngor ynghylch glanhau yn dilyn llifddwr ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/iechyd-cyhoeddus-amgylcheddol/llifogydd/

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page