Teuluoedd Cymwys yn Gallu Cofrestru i gael Cymorth â Chostau Gwisg Ysgol

Wrth i’r paratoadau ddechrau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol, mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa i edrych a ydynt yn gymwys i gael Grant Hanfodion Ysgol, sy’n helpu dysgwyr gyda chostau gwisg ysgol.
Gallai teuluoedd fod yn gymwys i gael rhwng £125 a £200 y dysgwr i helpu â chostau gwisg ysgol, yr offer sy’n hanfodol ar gyfer yr ystafell ddosbarth megis deunyddiau ysgrifennu a bagiau, a dillad ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi.

 

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn gwahodd ceisiadau nawr ac mae’n cefnogi teuluoedd â phlant o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11, sydd ar incwm is ac sy’n cael budd-daliadau penodol.

 

Mae’r grant yn darparu £125 y dysgwr, a £200 i ddysgwyr sy’n dechrau ym mlwyddyn 7 er mwyn helpu â’r costau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau mewn ysgol uwchradd.

Gall teuluoedd edrych i weld a ydynt yn gymwys a gwneud cais trwy’r awdurdod lleol lle mae eu plentyn yn mynd i’r ysgol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn Hawliwch help gyda chostau ysgol| LLYW. CYMRU

 

Yn ogystal â darparu cymorth uniongyrchol i deuluoedd, mae pob cais llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cyllid llawn sydd ar gael i gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm is.

 

Gall rhieni a gofalwyr hawlio unwaith fesul plentyn fesul blwyddyn ysgol.

 

Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu gyda –

  • gweithgareddau ysgol, gan gynnwys dysgu offeryn cerddorol, dillad chwaraeon ac offer arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
  • hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys offer ysgrifennu, pensiliau a bagiau ysgol
  • cyfarpar arbenigol ar gyfer gweithgareddau’r cwricwlwm, megis dylunio a thechnoleg
  • cyfarpar TG: gliniaduron a llechi yn unig (dim ond mewn sefyllfaoedd cyfyngedig lle nad yw ysgol yn gallu benthyg offer i’r teulu y dylid defnyddio’r Grant Hanfodion Ysgol)
  • cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol megis dysgu yn yr awyr agored (er enghraifft, dillad sy’n dal dŵr)
  • eitemau hanfodol nad ydynt yn ddillad ysgol fel dillad er mwyn gallu cymryd rhan mewn sesiynau preswyl addysg awyr agored
  • gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi gan gynnwys, ymhlith eraill: sgowtiaid; geids; cadetiaid; crefft ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawnsio

 

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan: “Yn ystod mis Awst bydd llawer o deuluoedd yn prynu gwisg ysgol ac eitemau ysgol eraill; dw i am eu hannog i edrych a oes ganddyn nhw hawl i fanteisio ar y Grant Hanfodion Ysgol, a all helpu gyda chostau.

 

Y llynedd, cefnogwyd dros 86,000 o blant a phobl ifanc gan y Grant Hanfodion Ysgol. Mae angen i deuluoedd wneud cais amdano, er mwyn cael y taliad untro ar gyfer y flwyddyn ysgol hon.”

You cannot copy any content of this page