“Diolch am roi fy mywyd yn ôl i mi” – Dyna eiriau menyw o Sir Gaerfyrddin sydd wedi mynegi ei diolchgarwch i Dîm Ymateb Acíwt (ART) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am y cyfle a’r gofal a roddwyd iddi.
Mae ART, sydd wedi dathlu 20 mlynedd o wasanaeth yn ddiweddar, yn rhan o’r tîm nyrsio cymunedol, gan weithio’n agos gyda nyrsys ardal.
Mae’n cynnig gofal 24 awr y dydd i bobl â salwch difrifol neu sydd angen gofal diwedd oes. Gall hyn gynnwys rhoi gwrthfiotigau mewnwythiennol, newid cathetrau a gwneud pobl sydd mewn poen mor gyfforddus â phosibl.
Mae gan Rachel, 35 oed o Dalacharn yn Sir Gaerfyrddin gyflwr meddygol cymhleth iawn ac roedd wedi treulio tair blynedd a hanner yn yr ysbyty, sy’n golygu na allai dreulio’r amser yr oedd hi eisiau gyda’i mab ifanc.
Ym mis Chwefror 2025, gwnaeth benderfyniad a newidiodd ei bywyd, gyda chefnogaeth clinigwyr ac ART, i weld a ellid trin ei chyflwr yn ei chartref.
“Gwneuthum y penderfyniad mai fy amser i oedd hi i adennill rhywfaint o reolaeth dros fy mywyd a dod adref,” meddai Rachel. “Dyma oedd un o’r penderfyniadau anoddaf a mwyaf brawychus i mi erioed orfod ei wneud. Gan nad oeddwn yn gwybod a fyddai’n gweithio, dysgu ymddiried yn weithwyr proffesiynol newydd fyddai fy her fwyaf oll.
“Ond dyma ni heddiw, 14 mis yn ddiweddarach, dyma oedd y penderfyniad gorau yn fy mywyd mewn gwirionedd ac nid wyf wedi edrych yn ôl.
“Oherwydd y gofal, y gefnogaeth a’r ymroddiad a roddodd ART i mi, rydw i wedi gallu cael rhywbeth nad oeddwn yn siŵr a fyddai gen i byth eto: ansawdd bywyd gwell. Dydw i ddim yn goroesi mwyach, rydw i’n byw a’u gwasanaeth nhw sydd wedi fy nghadw’n ddigon iach i’m cadw allan o’r ysbyty.
“Yn bwysicaf oll, rydw i adref gyda fy mab a dyna fu fy unig ddymuniad ers blynyddoedd lawer ac rydw i mor falch nad yw’r atgofion rydyn ni’n eu gwneud nawr yn cynnwys ysbytai.”
Sefydlwyd ART yn Sir Gaerfyrddin yn 2006 – dyma’r unig wasanaeth o’i fath yng Nghymru ar y pryd a oedd yn cynnig Gwasanaeth Nyrsio Cymunedol Gwrthfiotig Mewnwythiennol Tu Allan i Oriau 24 awr.
Dywedodd Craig Jones, Prif Nyrs Glinigol Cymunedol ART: “Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae’r gwasanaeth hwn wedi cefnogi miloedd o bobl ledled Sir Gaerfyrddin. Mae llawer o deuluoedd wedi dweud ein bod ni fel angylion, yn ymddangos yn awr angen cleifion a theuluoedd.
“Rydym wedi atal derbyniadau ysbyty dirifedi, dros yr 20 mlynedd diwethaf ac rydym wedi hwyluso mwy na 6,000 o ryddhau cleifion yn gynnar o’n hysbytai, gan sicrhau bod cleifion â heintiau cymhleth yn derbyn gofal arbenigol amserol ddydd neu nos, ym mhob tymor, ac yn aml ym mhob tywydd.”
Yn 2010, yn dilyn llwyddiant y gwasanaeth yn Sir Gaerfyrddin, ehangodd model y Tîm Ymateb Acíwt i Sir Benfro a Cheredigion.
“Rydym wedi bod yno i bobl yn rhai o adegau mwyaf pryderus eu bywydau,” parhaodd Craig. “Rydym wedi tawelu meddyliau teuluoedd, wedi cynnal urddas, a gwneud i ofal deimlo’n bersonol. Rwyf mor falch o sut rydym yn gweithio’n ddi-dor gyda’n Nyrsio Cymunedol (nyrsio Ardal).”
Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf yn Hywel Dda: “Hoffwn longyfarch y Tîm Ymateb Acíwt am bopeth y mae wedi’i gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf.
“Mae’r gwasanaeth yn enghraifft berffaith o werthoedd Hywel Dda ar waith – gweithio gyda’n gilydd ar draws gofal acíwt, cymunedol, gofal sylfaenol, a gofal brys. Mae ART yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnânt trwy roi triniaeth hanfodol i’r rhai sydd yn ein gofal yn eu cartrefi eu hunain ac ymdrechu i ddarparu’r gorau trwy ymarfer uwch a sgiliau nyrsio arbenigol.”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.
