Llun: Cyngor Sir Ceredigion
Yn ddiweddar, cafodd grŵp o bobl ifanc o bob cwr o Geredigion gyfle i ymweld ag Archif Sgrîn a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar daith dywys arbennig i nodi diwedd tymor llwyddiannus arall o’r Cynllun Gohebwyr Chwaraeon Ifanc.
Datblygwyd y cynllun gan Cered: Menter Iaith Ceredigion mewn partneriaeth â Cymru Sport, gorsaf radio wirfoddol, er mwyn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc roi sylwebaeth ar gemau pêl-droed lleol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddatblygu eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu ar yr un pryd.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r cynllun wedi parhau i dyfu, gyda’r nifer uchaf erioed o gyfranogwyr yn ystod tymor 2025/26. Cymerodd 21 o bobl ifanc ran, gan roi sylwebaeth ar gemau ledled y sir, o Fow Street i Aberteifi ac o Lanbedr Pont Steffan i Ffostrasol.
Yn ogystal â rhoi sylwebaeth fyw ar gemau, cafodd y bobl ifanc gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau unigryw, gan gynnwys gweithdy adrodd chwaraeon gyda Bro360. Yn ystod y tymor hefyd, cymerodd cannoedd o blant a phobl ifanc o ysgolion ledled Ceredigion ran mewn sesiynau blasu sylwebu pêl-droed.
Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu gyda Cered a chydlynydd y cynllun: “Mae wedi bod yn wych cydweithio â chlybiau ac ysgolion newydd y tymor hwn ac mae wedi bod yn bleser cefnogi’r bobl ifanc i feithrin eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.”
Ychwanegodd Geraint Roberts o Cymru Sport: “Mae’r Cynllun wedi galluogi Cymru Sport i ehangu ein arlwy o gemau byw ac ein arlwy Iaith Gymraeg tra hefyd yn meithrin sgiliau pobl ifanc a’u ysbrydoli i gychwyn gyrfa posib fel gohebwyr chwaraeon.”
Bydd y Cynllun Gohebwyr Chwaraeon Ifanc yn dychwelyd ym mis Medi ar gyfer y tymor pêl-droed newydd, gan gynnig rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc roi sylwebaeth fyw ar gemau pêl-droed lleol yn Gymraeg ar Cymru Sport.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cynllun gysylltu â cered@ceredigion.gov.uk am ragor o wybodaeth.