Darllenydd Newyddion yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi Uned Gofal Dwys

Yn y llun o’r chwith i’r dde: John Gillibrand (Tad Peter), Peter Gillibrand, Uwch Brif Nyrs Charlotte Moore, Uwch Brif Nyrs Tammy Bowen.

 

Mae Peter Gillibrand, gohebydd a darllenydd newyddion o Gaerdydd, wedi codi £1,866 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili.

 

Rhedodd Peter Hanner Marathon Caerdydd ar 27 Mawrth 2022 wedi’i wisgo mewn gwisg Ladi Gymreig i gefnogi ei frawd, Adam.

 

Cafodd byd Peter a’i deulu ei droi wyneb i waered pan anfonwyd Adam i uned gofal dwys gyda heintiau ar yr ymennydd ym mis Ionawr 2022.

 

Dywedodd Peter: “Fe achubodd yr archarwyr yn yr Uned Gofal Dwys fywyd fy mrawd. Ar adegau, dim ond llygedyn o obaith oedd yno ac roedd amseroedd yn dywyll. Ond staff gweithgar yr ICU a’i helpodd i oroesi trwy roi gofal 24/7 iddo wrth iddo gael cymorth anadlu am ddau fis.

 

“Mae’n wych gallu rhoi yn ôl i’r nyrsys a achubodd Adam. Nawr mae fy nheulu yn hapus ac mae sefyllfa wirioneddol wael wedi troi yn un gadarnhaol.”

 

Dywedodd Tammy Bowen, Uwch Brif Nyrs: “Hoffem ni fel tîm yr Uned Gofal Dwys ddiolch i Peter Gillibrand am ei rodd garedig a meddylgar.

 

“Rydym yn gobeithio defnyddio’r arian hwn tuag at wireddu ein breuddwydion o adeiladu gardd ITU y bydd cleifion ac aelodau o’u teuluoedd yn gallu eu mwynhau.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion GIG lleol, defnyddwyr gwasanaeth a staff, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page