Sir Gâr yn lansio Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg

Mae Cabinet Cyngor Sir Gâr wedi cymeradwyo’i Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg, sydd wedi ei ddatblygu ar y cyd gyda phartneriaid Fforwm Strategol y Gymraeg yn y sir, ac le gwell felly, i’w lansio yn swyddogol, nag ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

 

Lawnsiwyd Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Sir Gâr heddiw, dydd Iau, 1 Mehefin, mewn digwyddiad a chafodd ei gadeirio gan Meri Huws, cyn Gomisinydd yr Iaith Gymraeg a Chadeirydd Fforwm Strategol y Gymraeg Sir Gaerfyrddin.

 

Nod y Strategaeth yw i anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y Sir. Ein nod ni, fel Cyngor Sir a’n partneriaid, yw i adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd o fywyd.

 

Mae’r welediaeth a osodir yn y Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg yn un arolesol ac uchelgeisiol. Mae Cyngor Sir Gâr a’i bartneriaid eisiau gweld cynnydd yng nghyfran y Sir sydd yn gallu siarad Cymraeg ac yn defnyddio’u Cymraeg yn gyson.

 

Rydym eisiau gweld y Gymraeg yn norm gweithio a gweithredu yn sefydliadau cyhoeddus y Sir ac yn fwyfwy cyffredin ym musnesau’r Sir. Rydyn ni eisiau i’n pobl ifanc weld dyfodol iddynt yn y Sir mewn cymunedau Cymraeg cynaliadwy a ffyniannus, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.

 

Rydym eisiau i bawb fod yn falch o’r Gymraeg yn Sir Gâr.

 

Amlygodd Canlyniadau Cyfrifiad Poblogaeth 2021 a gyhoeddwyd yn ddiweddar fod gan Sir Gaerfyrddin y ganran uchaf o ran gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ymysg yr holl siroedd yng Nghymru, a hynny am yr ail ddegawd yn olynol.

 

Gan gydnabod y gostyngiad dychrynllyd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir, trwy gydweithio gyda’n partneriaid, mae’r awdurdod lleol yn gweithredu’n gadarn ac yn hyderus i atal y duedd niweidiol hon a bydd yn nodi ei gynlluniau wrth lansio ei Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: “Mae defnydd y Gymraeg yn Sir Gâr a’i pharhad yn gwbl hanfodol i barhad y Gymraeg yng Nghymru.

“Mae’r gostyngiad o ran nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau yn bryder mawr ac yn fater y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef. Bydd y strategaeth hon yn rhan annatod o’n hymrwymiad i newid y sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin ac rwy’n credu y bydd yn darparu esiampl i Gymru gyfan ei dilyn.

 

“Hoffwn ddiolch i holl bartneriaid y Cyngor Sir am eu parodrwydd i gydweithio, trwy Fforwm Strategol y Gymraeg y Sir, i ddatblygu Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg, y mae’r Cyngor yn statudol gyfrifol amdani. Ni fyddai wedi bod yn bosib i gyflwyno’r Strategaeth heb gefnogaeth lawn y Fforwm ac rwy’n edrych ymlaen at gyfnod arall o bum mlynedd o gydweithio er budd y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin.

 

“Rwy’n falch iawn i fedru lansio Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr. Gŵyl ieunectid yw hon, ar ieuenctid fydd yn cario’r iaith i’r genhedlaeth nesaf. Mae’n bwysig, felly, ein bod yn edrych tua’r dyfodol yn hyderus er mwyn hybu hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith ar draws pob agwedd ar eu bywydau.”

 

Am fanylion pellach, cysylltwch gyda Swyddfa Wasg Cyngor Sir Gâr

01267 224900 / wyddfawasg@sirgar.gov.uk

 

Carmarthenshire launches Welsh Language Promotion Strategy

Carmarthenshire County Council’s Cabinet has approved its Welsh Language Promotion Strategy, which has been developed in collaboration with partners of the Welsh Strategic Forum in the county, and where better to officially launch it, than at the Carmarthenshire Urdd Eisteddfod 2023.

 

Carmarthenshire’s Welsh Language Promotion Strategy was launched today, Thursday, 1 June, during an event chaired by Meri Huws, former Welsh Language Commissioner and Chair of the Carmarthenshire Welsh Language Strategic Forum.

 

The aim of the Strategy is to make Welsh the main language of the county. Our aim, as a County Council and with our partners, is to restore Welsh to a language spoken and used regularly by the majority of our residents, and in all aspects of life.

 

The vision set in the Welsh Language Promotion Strategy is innovative and ambitious. Carmarthenshire County Council and its partners want to see an increase in the proportion of the County that can speak Welsh and use their Welsh regularly.

 

We want to see the Welsh language as the norm when working and operating in the County’s public institutions and increasingly prevalent in businesses in the County. We want our young people to see a future for themselves in the County in sustainable and prosperous Welsh communities, economically, culturally and socially.

 

We want everyone to be proud of the Welsh language in Carmarthenshire.

 

The recently published 2021 Population Census Results highlighted that Carmarthenshire experienced the highest percentage loss of Welsh speakers of all the counties of Wales, for the second decade running.

 

Recognising the alarming decline in the number of Welsh speakers within the county, and by working with our partners, the local authority is taking firm and confident action to stop this damaging trend and will set out its plans at the launch of its Welsh Language Promotion Strategy at the Urdd Eisteddfod in Llandovery.

 

Cllr. Glynog Davies, Cabinet Member for Education and Welsh Language said: “The use of the Welsh language and its continuation in Carmarthenshire is absolutely vital to the survival of Welsh language in Wales.

 

“The decline in the number of Welsh speakers within our communities is a grave concern and an issue that we must address. This strategy will be integral in our commitment to turn the tide in Carmarthenshire and, I believe, provide an example to the whole of Wales to follow.

 

“I would like to thank all partners of the County Council for their willingness to work together, through the County’s Welsh Language Strategic Forum, to develop the Welsh Language Promotion Strategy, for which the Council has a statutory responsibility. It would not have been possible to introduce the Strategy without the full support of the Forum and I look forward to another five-years of working together for the benefit of the Welsh language in Carmarthenshire.

 

“I’m very pleased to be able to launch the Welsh Language Promotion Strategy at the Carmarthenshire Urdd Eisteddfod. This is a youth festival, and the youth of today are the ones who will pass the language on to the next generation. It’s important therefore that we look confidently to the future to encourage confidence within Welsh speakers to use the language across all aspects of their lives.”

 

For further information, please contact Carmartheshire County Council

01267 224900 / pressoffice@carmarthenshire.gov.uk

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page