Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu ariannu astudiaethau addysg uwch ar gyfer 20 aelod o staff ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a fydd yn helpu i wella sgiliau a bod o fudd i gleifion, diolch i roddion.
Bydd yr hyfforddiant arbenigol yn grymuso staff mewn gwasanaethau nyrsio, bydwreigiaeth a gofal iechyd cysylltiedig a gwyddor gofal iechyd, gan gefnogi eu datblygiad proffesiynol.
Mae’r meysydd arbenigedd yn cwmpasu Gofal Lliniarol, Dermatoleg, Asesiad Clinigol, Delweddu Meddygol, Ffisiotherapi, Gofal Critigol, a Diagnosis Cyhyrysgerbydol ac mae’r cymwysterau a ariennir yn cynnwys Tystysgrifau Ôl-raddedig, Diplomâu Ôl-raddedig a Meistr mewn Gwyddoniaeth.
Yn ogystal â’r cynnydd personol, bydd y rhai sy’n astudio hefyd yn gallu trosglwyddo llawer o’r wybodaeth a enillwyd i gydweithwyr yn eu timau, wardiau ac adrannau.
Dywedodd Cerys Davies, Prif Nyrs Ward yn yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Bronglais, sy’n cael ei hariannu i wneud MSc mewn Gofal Critigol: “Mae’r cwrs hwn yn fy ngalluogi i ddod â’r arfer clinigol mwyaf diweddar i gleifion. Mae pethau’n newid mor gyflym mewn gofal dwys ac rwyf eisoes yn gweld manteision o’m dysgu.
“Bydd y wybodaeth helaeth a gaf yn sicrhau y bydd y gofal a roddaf i’m cleifion difrifol gwael o’r safon uchaf ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Rwyf hefyd yn mynd i rannu fy ngwybodaeth gydag aelodau eraill o’r tîm amlddisgyblaethol.”
Dywedodd Jacob Backhouse, Ffisiotherapydd Arbenigol yn Ysbyty Llwynhelyg, sydd wedi cael cyllid ar gyfer modiwl tuag at ei MSc mewn Ffisiotherapi Uwch: “Rwyf bron i bum mlynedd i mewn i fy ngyrfa ac yn awyddus i adeiladu fy sylfaen wybodaeth, er budd gofal cleifion a theimlo’n hyderus yn fy ngallu fel clinigwr wrth ddelio â phroblemau cyhyrysgerbydol braich isaf.
“Rwyf hefyd yn mentora ffisiotherapyddion sy’n gweithio ar gylchdroadau a bydd yr hyn rwy’n ei ddysgu ar y cwrs hwn yn cael ei ddefnyddio trwy gydol fy ymarfer dyddiol ac yn fy ngalluogi i drosglwyddo fy mhrofiad iddynt.”
Mae Catrin Johns, Nyrs Ymarfer Newyddenedigol a Datblygiad Proffesiynol yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili, yn derbyn cyllid ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol. Dywedodd: “Rwy’n gyfrifol am ddarparu addysg i’r holl staff ar yr SCBU. Bydd y dysgu hwn yn cael ei rannu gyda staff a fydd o fudd i’r gofal a ddarperir i fabanod yn yr uned.
“Rwy’n frwdfrydig i ddysgu sut i ddatblygu yn fy rôl fel fy mod yn darparu’r cyfleoedd dysgu gorau i staff ar SCBU.”
Dywedodd Gemma Littlejohns, Rheolwr Dysgu a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gwybod bod buddsoddi yn natblygiad proffesiynol ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gysylltiedig â chanlyniadau gwell i gleifion ac yn Hywel Dda rydym bob amser yn blaenoriaethu datblygiad hanfodol ein staff.
“Mae derbyn buddsoddiad o £37,000 gan Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi cefnogi addysg uwch ugain o gydweithwyr ar draws y gwasanaethau nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan eu grymuso i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau y tu hwnt i’r hyn sy’n hanfodol i’w rôl. “Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu ein staff a’n gwasanaethau i fod hyd yn oed yn fwy ymatebol i’r amgylchedd cymhleth sy’n newid yn aml yr ydym yn canfod ein hunain ynddo, ac mae’n galluogi ein staff i ddilyn arbenigeddau a fydd o fudd i’n cleifion a’u teuluoedd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.