Cyngor ariannol yng nghanolfannau Hwb Sir Gaerfyrddin

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin a’i bartneriaid yn cynnal digwyddiad a fydd yn darparu cyngor ariannol yng nghanolfannau gwasanaethau cwsmeriaid Hwb Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin brynhawn dydd Gwener 27 Ionawr rhwng 10am a 4pm.

 

Bydd Mentoriaid Ariannol Arbenigol yn rhoi cyngor ar faterion ariannol gan gynnwys awgrymiadau ar gynllunio cyllideb yn ogystal â helpu i reoli arian yn effeithiol drwy adolygu gwariant a chwblhau cynllunwyr cyllideb i helpu i gadw cyllid ar y trywydd iawn.

 

Bydd Ymgynghorwyr cyfeillgar Hwb y Cyngor hefyd yn darparu pecynnau cymorth wedi’u teilwra i drigolion ar yr hyn y gallant eu hawlio ar sail eu hamgylchiadau unigol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

 

• Budd-dal Tai

• Y Dreth Gyngor/Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

• Effeithlonrwydd ynni

• Gwresogi eich cartref

• Clybiau tanwydd

• Cymorth Cyflogaeth

• Grantiau gwisg ysgol/prydau

• Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf

• Credyd Cynhwysol

• Perygl o fod yn ddigartref

• Materion tai

 

Bydd gwybodaeth gan bartneriaid eraill hefyd ar gael drwy gydol y dydd.

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Linda Evans: “Bydd y digwyddiad hwn unwaith eto yn dod â phartneriaid ynghyd i ddarparu cymorth costau byw i’n trigolion, gydag ystod o gyngor ar gyllidebu, cyngor ariannol a chyngor costau byw ar gael o dan yr un to.

 

“Rwy’n falch iawn bod gennym Fentoriaid Ariannol hyfforddedig yn y digwyddiad hwn i ddarparu ystod o gyngor i helpu pawb i wneud y gorau o’u harian, beth bynnag fo’u hamgylchiadau.”

 

Am wybodaeth ar gostau byw neu i ofyn am help gan Ymgynghorydd, ewch i Hawliwch bopeth (llyw.cymru)

 

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: