MAE Cyngor Sir Gaerfyrddin a CWM Environmental Ltd wedi agor Canolfan Eto yn swyddogol, pentref ailddefnyddio newydd sbon yn Nant-y-caws sy’n ceisio helpu i leihau gwastraff yn Sir Gaerfyrddin a rhoi bywyd newydd i eitemau diangen.
Mae Canolfan Eto yn cynnig profiad siopa cynaliadwy i gwsmeriaid sydd am brynu amrywiaeth eang o eitemau, gan gynnwys dodrefn, beiciau, paent, eitemau garddio a llawer mwy.
Cyn hir, bydd canolfan addysg yn cynnal sesiynau i ddisgyblion ysgol sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau amgylcheddol gan gynnwys; pwysigrwydd ailgylchu, beth sy’n digwydd i wastraff mewn canolfannau ailgylchu, sut mae pryfed peillio yn ein helpu a sut i gefnogi economi gylchol yn Sir Gaerfyrddin.
Meddai’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
“Mae agor Canolfan Eto yn Nant-y-caws yn gam cyffrous wrth ehangu prosiect Eto ynghyd â thwf cynaliadwyedd yn Sir Gaerfyrddin.”
“Gyda gweithdy atgyweirio ar y safle i drawsnewid eitemau sy’n cael eu rhoi, mae’r prosiect yn ceisio trwsio ac ailddefnyddio eitemau i’w cadw mewn defnydd cyhyd â phosib.”
Ychwanegod y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
“Bydd Canolfan Eto yn rhoi cyfleoedd i breswylwyr ac ymwelwyr brynu amrywiaeth eang o eitemau a roddwyd, sydd wedi’u hatgyweirio a’u hailddefnyddio gan y prosiect; gan helpu i leihau nifer yr eitemau sy’n mynd i mewn i’r ffrwd wastraff.”
Mae prosiect Eto hefyd yn cynnwys siop yn Stryd Stepney, canol tref Llanelli, a agorwyd yn 2021.
Mae mannau rhoi eitemau ar gael ym mhob un o ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref Sir Gaerfyrddin, lle gall preswylwyr roi eitemau i’r prosiect.
Mae enw Eto yn symboleiddio prif uchelgais economi gylchol. Bydd Canolfan Eto yn annog ymwelwyr i brynu a rhoi eitemau a ddefnyddiwyd yn flaenorol yn hytrach na phrynu eitemau newydd pryd bynnag sy’n bosib. Bydd y prosiect hefyd yn helpu i gyflawni uchelgais Sir Gaerfyrddin i sicrhau economi gylchol ledled y sir yn ogystal â bod ar y blaen o ran ailgylchu ac ailddefnyddio yng Nghymru.
Mae economi gylchol yn canolbwyntio ar ddileu gwastraff drwy leihau’r defnydd o eitemau sy’n cael eu taflu a throi deunyddiau a fyddai wedi cael eu taflu o’r blaen yn adnoddau gwerthfawr.
Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ariannu drwy gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.
