Y Prif Swyddog Meddygol yn atgoffa pobl i gynnal y camau amddiffyn rhag ffliw a COVID y gaeaf hwn

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod acchosion o’r ffliw, COVID-19 a firysau anadlol tymhorol eraill wedi cynyddu dros gyfnod y Nadolig ac yn parhau i fod ar lefelau uchel iawn. Heddiw (6 Ionawr) mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfraddau COVID-19 yng Nghymru wedi codi o 2% i 5%.

Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru: “Mae’n bwysig cofio nad yw COVID-19 wedi diflannu a bod lefelau uchel o ffliw a firysau anadlol tymhorol eraill ar led yn ein cymunedau o hyd, sy’n rhoi baich sylweddol ar ein system iechyd a gofal.

“Dydyn ni ddim yn gwbl imiwn i’r naill feirws na’r llall ac mae’n rhaid inni gynnal ein camau amddiffyn er mwyn parhau i ddiogelu Cymru a lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Rwy’n annog unrhyw un sydd â symptomau annwyd, ffliw neu COVID i geisio aros gartref a pheidio ymweld â lleoliadau iechyd a gofal, ac i ddal i olchi eu dwylo’n aml. Os oes gennych symptomau ac os oes rhaid ichi fynd allan, gwisgwch orchudd wyneb.

“Os ydych chi’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu COVID neu frechlyn ffliw ac nad ydych chi wedi cael eich pigiad eto, manteisiwch ar y cynnig er mwyn diogelu eich hun, eich anwyliaid a’n cymunedau. Yn yr un modd, os oes gennych chi blant sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw drwy chwistrelliad trwyn, mae’n bwysig iawn eu bod yn eu gael er mwyn diogelu eu hunain a chyfyngu ar ledaeniad y feirws. Edrychwch ar wefan eich bwrdd iechyd i gael rhagor o wybodaeth.

“Mae ymateb y cyhoedd wrth ddelio â COVID wedi bod yn rhagorol yng Nghymru ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb am weithio gyda ni i ddiogelu Cymru a diogelu ein gwasanaeth iechyd.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page