Does gan Lywodraeth Lafur Cymru “ddim cynllun i ddilyn y Punnoedd”, meddai arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wrth iddo herio’r Prif Weinidog ynghylch a oedd hi’n cael “gwerth ei arian” ar wariant iechyd.
Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, 18 Chwefror 2025), heriodd Mr ap Iorwerth y Prif Weinidog Llafur dros y £1.5bn a wariwyd ar ostwng rhestrau aros y gwasanaeth iechyd ers 2021 er bod rhestrau aros yn bwrw’r lefel uchaf erioed pob mis ers mis Mawrth 2024.
Ar hyn o bryd mae 802,268 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth yng Nghymru, sy’n cynnwys tua 619,100 o gleifion unigol.
Ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud “nid ydym yn gweld y math o ganlyniadau yr ydym yn credu y dylem fod yn eu gweld o’r buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn.”
Ers hynny mae arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb yn beirniadu methiant Llafur i gyflawni eu haddewid i fynd i’r afael â rhestrau aros cynyddol y gwasanaeth iechyd.
Wrth feirniadu methiant Llafur i gyflawni eu haddewid i fynd i’r afael â rhestrau aros cynyddol y gwasanaeth iechyd, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
“Addawodd y Prif Weinidog Llafur flaenoriaethu mynd i’r afael â rhestrau aros y gwasanaeth iechyd sydd are u huchaf erioed. Chwe mis yn ddiweddarach, mae’r Prif Weinidog wedi cyfaddef nad yw’r buddsoddiad wedi sicrhau gwell canlyniadau i gleifion.
“Er gwaethaf y cyfaddefiad hwn, does dim newid agwedd gan y llywodraeth na ffocws ar fesurau iechyd ataliol – does ddim cynllun i ddilyn y punnoedd.
“Ar ôl gwario £1.5bn ers etholiad Senedd 2021 ar fynd i’r afael â rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, ni ddylai fod 1 mewn pob 5 o bobl yn aros am gyfeiriad am driniaeth.
“Dim ond Plaid Cymru sy’n cynnig dechrau newydd i’r gwasanaeth iechyd, gyda chynllun clir i fynd i’r afael â rhestrau aros a chynigion i newid sut mae ein gwasanaeth iechyd yn cael ei redeg er mwyn sicrhau ei ddyfodol.”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.