Ai 2026 yw’r flwyddyn i chi? Os oes gennych chi uchelgais ond yn teimlo y gallech elwa o gyfarwyddyd a rhwydweithio, y rhaglen hon yw eich cyfle i fagu hyder, datblygu sgiliau hanfodol a chyflawni eich potensial yn llawn. Peidiwch ag oedi – mae’r cyfnod ymgeisio’n dod i ben am hanner nos, nos Sul 14 Mehefin 2026. Cymerwch y cam cyntaf a gwnewch gais heddiw! Mae rhagor o fanylion a sut i ymgeisio ar gael YMA!
Bydd aelodau rhaglen Academi Amaeth ac Academi’r Ifanc 2026 yn cymryd rhan mewn rhaglen ddwys o hyfforddiant arbenigol, mentora un i un a chymorth penodol wedi’i ymestyn dros dair sesiwn breswyl – gan gynnwys taith astudio dramor gyffrous! Nod y profiad unigryw hwn yw hybu eich twf personol, ehangu eich rhwydwaith proffesiynol, ac ysgogi syniadau newydd, gan agor drysau i gyfleoedd newydd ar gyfer eich dyfodol, fel y profodd Ellis Morgan fel rhan o Academi’r Ifanc y llynedd.
Daw Ellis o fferm gymysg sy’n cadw defaid a gwartheg bîff yng Nghanolbarth Cymru. Astudiodd gymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg y Tir yng Ngholeg Hartpury yn Swydd Gaerloyw. Mae ei fagwraeth ar fferm 450 erw’r teulu, sy’n cael ei bweru’n gynaliadwy gan ynni dŵr, solar a biomas, wedi sbarduno ei angerdd dros beirianneg, arloesi a chynaliadwyedd amaethyddol. Mae’r busnes teuluol blaengar hefyd wedi arallgyfeirio i gynhyrchu sudd afal, gyda choed wedi’u plannu ar 70 erw o’r fferm, ynghyd ag 20 erw o berllannau sy’n cyflenwi’r sudd afal.
Y tu hwnt i ffermio, mae Ellis yn aelod balch o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsenni, gan gystadlu’n rheolaidd mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus, ffensio da byw ac adloniant, ac mae hefyd yn chwarae rygbi i dîm Aberhonddu.
Fe wnaeth Ellis fwynhau ei brofiad yn fawr, ac mae’n annog unrhyw un sy’n ystyried ymgeisio i wneud hynny cyn diwedd y cyfnod ymgeisio. “Mae’n agor eich llygaid i syniadau newydd, diddiwedd, y gallwch eu rhoi ar waith ar eich fferm eich hun wedyn. Mae’n fwy na chyfleoedd yn unig – mae’n cynnig cyngor a chyfle i wneud cysylltiadau newydd. Rydw i’n bersonol wedi cadw cysylltiad gyda phob un o’r ffrindiau o’r un anian a gwrddais yn ystod fy nghyfnod fel rhan o’r academi.”
Roedd y seremoni yn y ffair aeaf yn uchafbwynt i Ellis, wrth iddo lwyddo i ennill dau o anrhydeddau mwyaf y noson. I gydnabod twf ac addewid sylweddol ar gyfer y dyfodol, enillodd Ellis y wobr “Dewis yr Aelodau” am yr aelod a oedd yn dangos y potensial mwyaf. I goroni blwyddyn o gyflawniadau anhygoel, cafodd Ellis hefyd ei enwi’n Enillydd Her yr Ifanc 2025.
Mae siwrnai Ellis gyda’r Academi Amaeth yn cynnwys cyswllt teuluol. Bu ei dad-cu, Glasnant Morgan, yn cymryd rhan yn y rhaglen, a bu’n rhannu profiad personol am yr hyn y gallai ei ddisgwyl a bu iddo annog Ellis i wneud cais, gan arwain at gyfnod llewyrchus iawn iddo.
Mae’r Academi Hŷn yn cynnwys cymysgedd cyffrous o leoliadau, o Iwerddon i Wlad y Basg yng ngogledd Sbaen. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i aelodau brofi arferion ffermio amrywiol, cadwyni cyflenwi bwyd dynamig, a dulliau busnes blaengar o fewn amgylcheddau cyferbyniol.
Mae Rhaglen yr Ifanc yr un mor gyffrous, gan fynd ag aelodau o dirwedd fwy cyfarwydd Gogledd Cymru a Northumberland i dirwedd ffermio garw Gwlad yr Iâ. Bydd pob cyrchfan yn cyfuno golwg fanylach ar ffermio ymarferol â phrofiadau diwylliannol unigryw fydd yn sbarduno syniadau busnes newydd.
A allai 2026 fod y flwyddyn chi fel aelod o’r Academi Amaeth? Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau am hanner nos, dydd Sul, 14 Mehefin 2026. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a ffurflenni cais YMA!
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.
