Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi dyfarniad fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu a chyflawni Asesiad digonol o effaith cau Ysgol Llansteffan ar y Gymraeg cyn cymryd penderfyniad i gyhoeddi Hysbysiad i gau’r ysgol. Dywed mewn llythyr wrth Gymdeithas yr Iaith a gyflwynodd y cwyn: “Rydym hefyd wedi derbyn sylwadau gan y Cyngor oedd yn derbyn ein canfyddiad fod yr asesiad effaith gwreiddiol yn annigonol.”
Ni dderbyniodd y Comisiynydd gŵyn gyntaf y Gymdeithas nad oedd digon o gapasiti yn ysgolion Cymraeg eraill ardal tre Caerfyrddin, ac y byddai rhai disgyblion yn cael eu gorfodi allan o addysg Gymraeg, gan nad oedd o fewn gallu’r Comisiynydd i ymchwilio i data capasiti ysgolion, ond dyfarnodd nad oedd yr asesiad effaith gwreiddiol wedi trin “yn gydwybodol” effaith cau’r ysgol ar y Gymraeg ym mhentref Llansteffan. Yr oedd Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno ei bod yn afresymol mynnu mai effaith “niwtral” fyddai i benderfyniad i gau prif sefydliad Cymraeg y pentref, ac y byddai yn groes i ymdrechion i adfywio cymunedau gwledig Cymraeg.
Dyfarniad y Comisiynydd oedd “bod y Cyngor wedi methu cydymffurfio â safonau 88, 89 a 90”, sydd yn ymwneud ag asesu effaith polisïau ar y Gymraeg.
Dywed y Comisiynydd fod y Cyngor wedi diwygio’i Asesiad Iaith o ganlyniad i’r ymchwiliad, ac nad oes hawl gan y Comisiynydd i newid penderfyniadau Cyngor, dim ond i sicrhau fod cydymffurfiaeth a Safonau yn y dyfodol. Ond mae’r Comisiynydd yn pwysleisio y dylid fod wedi rhoi sylw cydwybodol i effaith negyddol y cynnig i gau’r ysgol o’r cychwyn.
Dywed yn ei dyfarniad “Er mwyn cydymffurfio â’r safonau, mae’n allweddol bod yr ystyriaeth i’r effeithiau ar y Gymraeg yn rhan annatod o’r broses o wneud y penderfyniad polisi o’r cychwyn, yn hytrach na’i fod ar wahân i’r penderfyniad ei hun, neu ar ddiwedd y broses”, gan ychwanegu “Dylai’r Cyngor addasu’r ddogfen Siart Llif sydd wedi dod at ein sylw er mwyn cynnwys cymal sy’n nodi bod angen i’r effeithiau ar y Gymraeg gael eu hystyried yn unol â safonau’r Gymraeg o gychwyn y broses.”
Wrth ymateb ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin dywedodd Ffred Ffransis:
“Y gwir plaen yw fod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymryd penderfyniad yn Nhachwedd 2025 i gyhoeddi Hysbysiad Cau Ysgol Llansteffan ar sail Asesiad Effaith Iaith diffygiol, ac nid yw’r ffaith iddynt geisio cymryd rhai camau lliniaru wedyn yn dadwneud yr anghyfiawnder hwnnw a’r niwed sydd wedi’i wneud i’r teuluoedd ac i’r gymuned leol. Mae eisoes hanes am un teulu lleol yn rhoi eu tŷ ar y farchnad er mwyn symud i gymuned arall lle mae ysgol. Byddwn yn tynnu sylw Prif Weithredwr y Cyngor, Wendy Walters, at y diffygion o ran gweithredu strategol ar draws adrannau. Mae cais i adeiladu tai fforddiadwy yn y pentre, ond beth yw’r diben gwneud hynny i geisio gadw a denu teuluoedd ifainc os bydd adran arall yn cau’r ysgol”

