Senedd Cymru yn cymeradwyo deddfwriaeth 20mya – y wlad gyntaf yn y DU

MAE’r Senedd wedi cymeradwyo deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn – gan helpu i achub bywydau, datblygu cymunedau mwy diogel, gwella ansawdd bywyd ac annog mwy o bobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a llesol.

Mae’r terfynau cyflymder arafach newydd yn cael eu treialu ar hyn o bryd mewn wyth cymuned ledled Cymru a chânt eu cyflwyno’n genedlaethol ym mis Medi 2023.

Ni fydd y ddeddfwriaeth newydd yn gosod terfyn cyflymder cyffredinol ar bob ffordd, ond bydd yn gwneud terfyn diofyn o 20mya, gan adael i awdurdodau lleol, sy’n adnabod eu hardal orau, i gysylltu â’r gymuned leol i benderfynu pa ffyrdd ddylai aros ar 30mya.

Ar hyn o bryd, dim ond 2.5% o ffyrdd Cymru sydd â therfyn cyflymder o 20mya, ond o’r flwyddyn nesaf disgwylir i hyn gynyddu i tua 35%, gan helpu i greu ffyrdd a chymunedau mwy diogel ledled Cymru.

Wrth siarad ar ôl y bleidlais, dywedodd Julie James, y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd:

“Rwy’n falch iawn bod y newid i 20mya wedi derbyn cefnogaeth trawsbleidiol ar draws Senedd Cymru heddiw.

Mae’r dystiolaeth yn glir, mae lleihau cyflymder nid yn unig yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau, ond yn helpu i wella ansawdd bywyd pobl – gan wneud ein strydoedd a’n cymunedau yn lleoedd mwy diogel a chroesawgar i feicwyr a cherddwyr, tra’n helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Rydym yn gwybod na fydd y newid hwn yn hawdd – mae’n ymwneud cymaint â newid calonnau a meddyliau ag y mae’n ymwneud â gorfodi – ond dros amser bydd 20mya yn dod yn norm, yn union fel y cyfyngiadau rydym wedi’u cyflwyno o’r blaen ar daliadau am fagiau siopa a rhoi organau.

Unwaith eto, mae Cymru’n arwain y ffordd i wledydd eraill y DU.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page