Annog y cyhoedd gymryd gofal wrth i’r tymheredd godi yng Nghymr

MAE Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru yn annog pobl i gymryd gofal ychwanegol a chynllunio ymlaen llaw i ddiogelu eu hunain ac eraill, yn sgil rhybudd y Swyddfa Dywydd am wres eithafol.

Mae’r rhybudd Oren, sydd mewn grym ar gyfer dydd Sul 17 Gorffennaf, dydd Llun 18 Gorffennaf a dydd Mawrth 19 Gorffennaf, yn awgrymu y gallai’r tymheredd godi i’r tridegau canol mewn rhai ardaloedd yn nwyrain Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, ysgolion a busnesau i ddiogelu’r cyhoedd yn ystod cyfnod rhybudd y Swyddfa Dywydd.

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru Chris Jones:

“Nid yw’r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion am wres eithafol heb ystyriaeth ddwys ac mae angen cymryd y risgiau iechyd posib o ddifri.

Gall tymheredd uchel iawn fod yn beryglus i bawb ond mae mwy o risg i bobl oedrannus, plant, pobl â phroblemau iechyd cronig a phobl agored i niwed a all ei chael yn anodd ymdopi yn y gwres.

Mae’r galw ar y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau brys yng Nghymru eisoes yn uchel felly drwy gymryd gofal ychwanegol i ddiogelu ein hunain a’n teuluoedd, gallwn ni gyd helpu i leihau’r pwysau ar y gwasanaethau hanfodol hyn.

Gall gwres eithafol beri pryder i bobl agored i niwed a phobl oedrannus yn enwedig felly fe fyddwn i hefyd yn annog pobl i gadw llygad ar gymdogion a pherthnasau i wneud yn siŵr eu bod yn ymdopi wrth i’r tymheredd godi.”

I ddiogelu eich hun ac eraill:

Yfwch ddigon o hylif – mae yfed dŵr yn hanfodol gan fod eich corff yn colli mwy o hylif mewn tymheredd uwch.

Cynlluniwch ymlaen llaw ac arhoswch yn y cysgod – mae’n well osgoi’r rhan boethaf o’r dydd rhwng canol dydd a 3pm ac osgoi gwneud gweithgareddau awyr agored egnïol yn ystod yr amser hwn.

Gwisgwch sbectol haul ac amddiffynnwch eich corff rhag yr haul – bydd eli haul neu floc haul yn helpu i’ch atal rhag llosgi. 

I gadw’ch cartref yn oer, diffoddwch oleuadau ac offer trydanol os nad ydynt yn hanfodol, a chau llenni a bleindiau i gael cysgod mewn ystafelloedd.

Peidiwch â gadael plant ifanc, pobl oedrannus nac anifeiliaid anwes mewn ceir wedi’u parcio gan fod y tymheredd y tu mewn yn gallu codi’n uchel.

Er bod mynd i’r dŵr i oeri yn demtasiwn fawr, byddwch yn ofalus mewn dŵr agored fel afonydd a llynnoedd, a chadwch lygad ar blant.

Gwisgwch ddillad llac a het pan fyddwch yn yr awyr agored.

Os ydych chi’n poeni am unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â gwres, ewch i wefan GIG 111 – 111.wales.nhs.uk – i wirio’ch symptomau neu ffoniwch 111 i gael cyngor.

Mae’r rhybudd gwres eithafol yn debygol o gael effaith sylweddol ar draws cymdeithas:

Trafnidiaeth

Gall fod effeithiau sylweddol ar seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn ystod y cyfnod o wres eithafol, gan gynnwys ffyrdd a rheilffyrdd. Dylai teithwyr gynllunio ymlaen llaw a sicrhau bod ganddynt ddigon o ddŵr. Bydd y gwres yn golygu bod cerbydau’n fwy tebygol o dorri i lawr ar ffyrdd ac fe allai roi straen hefyd ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Gallai’r ddau beth hyn arwain at darfu ac oedi wrth deithio. Dylai teithwyr holi eu gweithredwr trenau neu fysiau, Traffig Cymru neu Traveline Cymru i gael gwybod am unrhyw darfu ac i newid eu cynlluniau teithio yn unol â hynny.

Ysgolion a gofal plant

Mae cyngor yn cael ei roi i ysgolion a lleoliadau gofal plant i ddelio â’r gwres eithafol, gan gynnwys osgoi gweithgarwch corfforol egnïol a darparu cymaint o gysgod ac awyr iach â phosibl. Dylai plant wisgo dillad rhydd, lliw golau os oes modd, gwisgo hetiau yn yr awyr agored ac yfed digon o ddŵr.

Gweithleoedd

Mae gan bob gweithle gyfrifoldeb cyfreithiol dros sicrhau amgylchedd diogel ac iach i’w gweithwyr. Dylai cyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i sicrhau y gall gweithwyr wneud eu gwaith yn ddiogel ac yn unol â chyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar weithio mewn tymheredd poeth.

https://businesswales.gov.wales/cy/newyddion-blogiau/newyddion/awdurdod-gweithredol-iechyd-diogelwch-canllawiau-ar-weithio-mewn-tymheredd-poeth

Digwyddiadau

Ar gyfer pob digwyddiad sydd wedi’i drefnu yn ystod y cyfnod o wres eithafol, dylai trefnwyr adolygu dulliau cyfathrebu ychwanegol i fynychwyr, gwylwyr a chyfranogwyr – cyn ac yn ystod y digwyddiad – gan gynghori ar ymddygiadau diogel a argymhellir mewn gwres eithafol. Dylent hefyd ystyried yr angen am unrhyw fesurau ychwanegol, mewn perthynas â llwyfannu digwyddiadau a seilwaith, er mwyn lliniaru effeithiau gwaethaf gwres eithafol – er enghraifft darparu cysgod ychwanegol, gorsafoedd dŵr a mesurau eraill. Ar sail ystyriaeth bellach o’r risgiau, dylent asesu a ddylid gohirio’r digwyddiad cyfan neu ran ohono.

Sioe Frenhinol Cymru

Mae’r rhybudd gwres eithafol yn cyd-fynd â dechrau’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Dylai ymwelwyr ac arddangoswyr ddilyn yr holl gyngor gan drefnwyr y sioe i sicrhau diogelwch a llesiant y rhai sy’n mynychu a lles yr anifeiliaid. Mae gan unrhyw un sy’n berchen ar anifail neu sy’n gyfrifol amdano ddyletswydd gyfreithiol i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ei anghenion lles yn cael eu diwallu. Dylai arddangoswyr sioe archwilio eu hanifeiliaid yn aml. Os oes ganddynt unrhyw bryderon am les eu da byw, dylent gysylltu â’r tîm milfeddygol ar y safle ar unwaith.

Mae Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd rhan mewn strwythurau Argyfyngau Sifil Posibl ledled y DU i sicrhau dull cydgysylltiedig o ymdrin â materion trawsffiniol a achosir gan y gwres eithafol.


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page