Stiliwr ymchwiliol newydd i gleifion gastroenteroleg

Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu stiliwr ymchwiliol newydd ar gyfer cleifion gastroenteroleg yn Ysbyty Glangwili.

Mae’r cit newydd, sy’n costio dros £4,600, yn stiliwr amledd is ar gyfer delweddu’r thoracs a’r abdomen.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ysbyty a’r ymgynghorydd cardiaidd Dr Eiry Edmunds: “Bydd y darn hwn o offer yn helpu i alluogi cleifion â phroblemau afu i gael unrhyw hylif abdomen cronedig wedi’i ddraenio’n ddiogel ac yn effeithiol. Bydd yn lleihau faint o amser sydd ganddynt i aros am y driniaeth hon.”

Ychwanegodd Prif Nyrs yr Uned Ddydd Feddygol, Dawn Tapp: “Ein diolch i bawb. Mae’r stiliwr yn bendant wedi gwella gofal cleifion yn yr Uned Gofal Brys ar yr Un Diwrnod a’r Uned Ddydd Feddygol.”

Uchod: Yn y llun, gwelir Prif Nyrs Iau Samantha Barrett gyda’r stiliwr newydd

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi eich GIG lleol, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 

Unlike  other news outlets, Carmarthenshire News Online does not receive massive advertising revenue or large grants. We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: