Cyfarwyddwr newydd yn ymuno â’r Brifysgol Agored yng Nghymru

Ar 27 Tachwedd, croesawodd Y Brifysgol Agored yng Nghymru Ben Lewis fel y Cyfarwyddwr newydd.

Mae Ben yn ymuno o Brifysgol Caerdydd lle bu’n Gyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr. Mae’n olynu Louise Casella a ymddeolodd ym mis Mehefin.

David Price oedd Cyfarwyddwr Dros Dro y Brifysgol Agored yng Nghymru hyd nes i Ben gyrraedd.

Dywedodd Ben Lewis:

“Mae’r Brifysgol Agored yn gyfystyr â’r syniad o ddysgu gydol oes. Wrth ei gwraidd mae’r gred y dylai addysg fod ar gael i bobl ble bynnag y bônt, a beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Mae’n amser cyffrous i ymuno â’r brifysgol ho.n – mae niferoedd ein myfyrwyr yn uwch nag erioed, ac mae’r llywodraeth a’r llunwyr polisi’n cydnabod gwerth addysg uwch hyblyg rhan-amser.

“Diolch i David Price am ei stiwardiaeth yn ystod y cyfnod interim, ac am y croeso yr wyf wedi derbyn gan gydweithwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid. Mae’n fraint cael ymuno â’r tîm hwn, ac edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan yn y camau nesaf yn nyfodol y brifysgol.”

Ychwanegodd Llywydd Cymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored (OUSA), Margaret Greenaway o Abertawe:

“Rydyn ni eisiau i fyfyrwyr gael dweud eu dweud am sut mae eu prifysgol nhw’n cael ei rhedeg, waeth beth fo’u cefndir neu ble maen nhw’n byw. Rydym yn falch o’r berthynas gadarnhaol sydd gan OUSA â’r Brifysgol Agored yng Nghymru, ac rydym yn siŵr y bydd hyn yn parhau yn ystod cyfnod Ben fel Cyfarwyddwr. Croeso mawr iddo i deulu’r Brifysgol Agored!”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page