| Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn galw ar ffermwyr, tirfeddianwyr a chymunedau gwledig ledled Cymru i chwarae eu rhan wrth leihau’r risg o danau gwyllt yn y dyfodol, wrth iddo lansio ei ymgyrch #LlosgiIAmddiffyn flynyddol. |
| Daw’r lansiad yn dilyn un o’r tymhorau tanau gwyllt mwyaf y mae Cymru wedi’i weld. Haf 2026 oedd yr haf poethaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru, ac roedd yn cynnwys y mis Gorffennaf sychaf a gofnodwyd erioed, gan greu amodau delfrydol i danau gwyllt ledaenu’n gyflym ar draws cefn gwlad. Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst, cyhoeddodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru bedwar o danau gwyllt mawr ar Fynydd Conwy a Mynydd Llanwynno, ac yng Nghronfa Ddŵr Llangynidr a Rhandir-mwyn.
Mae graddfa, hyd a dwyster y digwyddiadau hyn yn rhoi pwysau digynsail nid yn unig ar y gwasanaethau brys, ond hefyd ar ein hasiantaethau partner, cymunedau lleol, ffermwyr a thirfeddianwyr a oedd ar reng flaen yr ymateb. Derbyniodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru gymorth cydfuddiannol gan ein cymdogion yng Ngwasanaethau Tân ac Achub Lloegr, ac yn Ne Cymru, anfonwyd cymorth milwrol i helpu i gefnogi gweithrediadau. Profodd cymunedau ledled Cymru aflonyddwch ac ansicrwydd, effeithiwyd ar ardaloedd helaeth o dir ffermwyr a thirfeddianwyr, cafodd cynefinoedd gwerthfawr eu difrodi ac, mewn rhai achosion, profodd teuluoedd golled eiddo dinistriol. Gan gydnabod bod llosgi dan reolaeth yn parhau i fod yn ffordd bwysig o reoli tir pan gaiff ei wneud yn gyfrifol, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog pawb sy’n bwriadu llosgi y tymor hwn i gydweithio’n agos â’u Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, undebau ffermio a phartneriaid eraill. Gall ffermwyr a thirfeddianwyr losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin rhwng 1 Hydref a 15 Mawrth bob blwyddyn, gyda’r cyfnod wedi ei ymestyn tan 31 Mawrth yn yr ucheldiroedd. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sy’n bwriadu llosgi dan reolaeth sicrhau bod cynllun llosgi ar waith a bod yr holl ragofalon priodol wedi’u hystyried. Fel rhan o’r ymgyrch #LlosgiIAmddiffyn, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn atgoffa tirfeddianwyr o gyngor diogelwch syml ond pwysig:
Dywedodd Andy Wright, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Gynghorydd Arbenigol – Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn dod â Gwasanaethau Tân ac Achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddluoedd, undebau ffermio, rheolwyr tir a sefydliadau partner eraill ynghyd i ddeall ac i leihau’r risg o danau gwyllt ledled Cymru yn well. Drwy gydweithio a rhannu gwybodaeth, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio gwella dealltwriaeth o’r camau syml a all leihau tebygolrwydd ac effaith tanau gwyllt, gan helpu i ddiogelu cymunedau, cefn gwlad ac amgylchedd naturiol Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch #LlosgiIAmddiffyn, gan gynnwys canllawiau diogelwch ac adnoddau y gallwch eu lawrlwytho, ewch i wefan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol. |
Yn Dilyn Haf Na Fydd Cymru’n ei Anghofio, Anogir Tirfeddianwyr i Losgi i Amddiffyn