Canolfan Gwella Iechyd a Llesiant yn Llanelli

Bydd datblygiad Strategaeth Gwella Iechyd a Llesiant gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn nodi sut y bydd gwasanaethau iechyd lleol yn gweithio gyda phartneriaid, cymunedau, cleifion a’r cyhoedd i wella llesiant, mwynhau ffordd iach o fyw a mynd i’r afael â phrif achosion afiechyd ataliadwy a marwolaeth gynnar.

Fel rhan o hyn, cyflwynodd y bwrdd iechyd gais cynllunio ym mis Rhagfyr 2022 ar gyfer darparu Canolfan Gwella Iechyd a Llesiant yn Llanelli, a fydd yn cynyddu ystod a hygyrchedd gwasanaethau hanfodol ar gyfer y boblogaeth leol.

Bwriad y cyfleuster yw gwella iechyd a lles y gymuned a chenedlaethau’r dyfodol trwy ddarparu gwasanaethau arwahanol a chyfrinachol i’r gymuned leol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n dymuno ceisio cymorth gyda newid ymddygiad ffordd o fyw.

Roedd y cais cynllunio’n cynnwys lle ar gyfer tîm iechyd y cyhoedd Gwella Iechyd a Llesiant y bwrdd iechyd, y gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu, y gwasanaeth atal ac ymyrraeth gynnar i blant a phobl ifanc a ddarperir gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, gwasanaethau seicoleg i oedolion a phlant a Thîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol y bwrdd iechyd.

Dywedodd Joanna Dainton, Pennaeth Gwella Iechyd a Llesiant – Iechyd y Cyhoedd: “Bydd yr eiddo hwn yn galluogi darparu triniaethau ac ymyriadau atal gwell ac arloesol, lleihau marwolaethau, gwella iechyd a llesiant, lleihau trosedd a gwella diogelwch cymunedol.

“Mae’r bwrdd iechyd wedi archwilio lleoliadau posibl eraill, gan gynnwys yr hen orsaf heddlu yng nghanol y dref, ond mae wedi nodi Anchor Point fel yr eiddo mwyaf addas i’w ddatblygu.

“Mae canolfan gwella iechyd a llesiant newydd yn Llanelli yn hanfodol i strategaeth y bwrdd iechyd o symud o fod yn wasanaeth sy’n trin salwch, at fod yn wasanaeth sy’n hybu a chefnogi llesiant. Gan weithio gyda phartneriaid, cymunedau, cleifion a’r cyhoedd i alluogi ein cymuned i fwynhau ffordd iach o fyw a mynd i’r afael â phrif achosion afiechyd ataliadwy a marwolaethau cynnar.

“Mae ysmygu a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau ymhlith y prif achosion o afiechyd ataliadwy a marwolaethau cynnar ac mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn flaenoriaethau strategol i’r bwrdd iechyd ac aelodau’r Bwrdd Cynllunio Ardal.

“Yn yr un modd, bydd gwella gwydnwch plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiadau niweidiol yn sicrhau gwell canlyniadau iechyd a llesiant ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r gymuned leol ynghylch y datblygiad arfaethedig hwn ac mae sesiwn galw heibio cyhoeddus wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mawrth 21 Chwefror 2023 rhwng 2pm a 7pm yn y Ganolfan Ôl-raddedig yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli. Gall aelodau o’r cyhoedd ddod draw i drafod cynlluniau gyda staff a rheolwyr y ddarpariaeth gwasanaeth arfaethedig – bydd hyn yn cynnwys Heddlu Dyfed Powys, staff y Bwrdd Iechyd a darparwyr gwasanaethau trydydd sector.

Bydd rhagor o wybodaeth a chyfle i bobl rannu eu barn hefyd ar gael yn fuan drwy wefan Dweud eich Dweud y Bwrdd Iechyd www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk.

Ychwanegodd Joanna, “Rydym yn deall y gallai’r gymuned leol i Anchor Point ddymuno dysgu mwy am ein cynnig a’r gwasanaethau y bydd yn eu darparu.

“Rydym yn edrych ymlaen at drafod ein cynlluniau gyda’r gymuned yn y sesiwn galw heibio ym mis Chwefror ac rydym yn annog pawb a allai fod â diddordeb mewn deall mwy i fynychu.”

Mae Pwyllgor Datblygu Strategol a Chyflawni Gweithredol y bwrdd iechyd (16 Rhagfyr 2022) wedi ystyried y cynnig ac wedi cytuno iddo fynd i’r Bwrdd ffurfiol i’w gymeradwyo yn 2023.

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page