Cyngor Sir Caerfyrddin yn llongyfarch yr holl ddisgyblion sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn llongyfarch yr holl ddisgyblion sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, sef dydd Iau 24 Awst 2023.

 

Mae dysgwyr o bob rhan o’r sir yn elwa ar ddwy flynedd o ymroddiad a gwaith caled, ganddyn nhw eu hunain, eu hathrawon a staff cymorth.

 

Yn Sir Gaerfyrddin, dyfarnwyd gradd A*-C i 67.8% o’r holl geisiadau a dyfarnwyd gradd A*-A i 21.7% o’r ceisiadau.

 

Ar ôl derbyn ei ganlyniadau heddiw, dywedodd Matthew o Ysgol Gyfun Emlyn, “Ces i bump A*, pedwar A a tri B. Rwy’n hapus gyda’r canlyniadau achos gallaf fynd yn nôl i’r chweched dosbarth a heno byddaf yn dathlu gyda teulu a mynd mas gyda ffrindiau.”

 

Cliciwch yma i weld fideo o ddisgyblion Ysgol Gyfun Emlyn yn derbyn eu canlyniadau TGAU https://vimeo.com/857501605?share=copy

 

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: “Llongyfarchiadau i’n holl bobl ifanc sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw. Rwy’n hynod falch o’ch gwaith caled a’ch cyflawniadau.

 

“Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, rhaid i mi ddiolch hefyd i’n hathrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eich cefnogaeth a’ch ymrwymiad i’r bobl ifanc hyn – cenhedlaeth nesaf Sir Gaerfyrddin.”

 

Mewn datganiad ar y cyd, ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters a’r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, Gareth Morgans: “Mae gwaith caled ein dysgwyr, eu hathrawon, staff cymorth, teuluoedd a’u ffrindiau yn amlwg heddiw yn y canlyniadau gwych hyn. Llongyfarchiadau i chi i gyd!”

 

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: