Bydd cyfyngiadau sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol mewn rhannau o Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan yn parhau mewn grym am dair blynedd arall.
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2026, cytunodd Cyngor Sir Ceredigion i ymestyn y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol ar gyfer ardaloedd dynodedig yng nghanol trefi Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan. Bydd y gorchmynion yn parhau mewn grym o 20 Hydref 2026 hyd at 19 Hydref 2029.
Mae’r Gorchmynion yn rhoi pwerau ychwanegol i’r heddlu a swyddogion awdurdodedig ymdrin ag ymddygiad sy’n gysylltiedig ag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus pan fo hynny’n achosi niwsans, anhrefn neu ofid i eraill.
O fewn yr ardaloedd dynodedig, gall swyddogion ofyn i unigolion roi’r gorau i yfed alcohol neu ildio alcohol os yw’n cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall unrhyw un sy’n gwrthod cydymffurfio â chais rhesymol fod yn cyflawni trosedd.
Bwriad ymestyn y Gorchmynion yw helpu i gadw canol trefi yn ddiogel, croesawgar a phleserus i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Bydd hysbysiadau cyhoeddus sy’n egluro estyniad y Gorchmynion a’r hyn mae’n ei olygu i gymunedau lleol yn cael eu cyhoeddi yn y wasg leol.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Partneriaethau, Tai, Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd: “O ganlyniad i’r effaith gadarnhaol maent wedi cael ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a bygythiol sy’n gysylltiedig ag alcohol, mae’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus cyfredol wedi’u hadnewyddu unwaith eto yng nghanol tair o drefi Ceredigion.”
“Bydd ymestyn y darpariaethau hyn yn helpu i sicrhau bod ein trefi’n parhau i fod yn fannau croesawgar, ffyniannus a diogel ar gyfer pobl o bob oed a chefndir.”
Gellir gweld y gorchmynion a’r mapiau cysylltiedig ar wefan Cyngor Sir Ceredigion. Gellir ei gweld yma: Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus – Cyngor Sir Ceredigion