Teulu yn Gosod Mainc Goffa yn Ward Cilgerran

Yn y llun uchod: mam Rhys, Faye; nain a taid Rhys, Mr a Mrs Morris; chwaer Rhys, Anne-Louise; a staff o Ward Cilgerran.

Mae teulu Rhys Calthorpe, a fu farw’n anffodus yn 14 oed, wedi gosod mainc goffa ar ward plant Cilgerran yn Ysbyty Glangwili er anrhydedd iddo.

 Yn anffodus, bu farw Rhys ym mis Gorffennaf 2023 oherwydd ffurf ddychweliadol ar Lewcemia Myeloid Acíwt. Bu farw Rhys yn dawel yng nghartref ei daid a’i nain – y lle roedd am aros ynddo – gyda’i deulu o’i amgylch.

 Mentrodd teulu Rhys i’r dŵr rhewllyd yn ystod Nofiad Dydd Calan Saundersfoot, gan godi swm gwych o £1,000 a dalodd am y fainc goffa.

 Dywedodd Faye Calthorpe, mam Rhys: “Diolch o waelod calon i holl staff y Ward Plant. Hoffwn ddiolch, o waelod fy nghalon, i bob aelod o staff y Ward Plant am y gofal, y caredigrwydd a’r tosturi anhygoel a ddangoswyd i fy mab. Roedd yr ymroddiad, yr amynedd a’r cariad a roesoch iddo yn golygu mwy i mi nag y gall geiriau byth ei fynegi.

 “Mewn cyfnod mor anodd ac emosiynol, gwnaethoch wahaniaeth nid yn unig i’w fywyd ef, ond i’n bywydau ninnau fel teulu hefyd. Byddaf bob amser yn ddiolchgar am bopeth a wnaethoch drosto, ac am y cysur a’r gefnogaeth a roesoch i ni pan oedd eu hangen arnom fwyaf.

 “Gyda llawer o gariad, rydym yn cysegru’r fainc hon er cof amdano. Gobeithio y bydd yn atgof parhaol o fachgen bach arbennig iawn na fydd byth yn cael ei anghofio, ac yn ffordd fach o roi rhywbeth yn ôl i’r tîm rhyfeddol a ofalodd amdano mor dyner. Diolch am bopeth a wnewch, am bob plentyn rydych yn gofalu amdano, ac am y caredigrwydd a ddangoswch i bob teulu sy’n dod drwy’ch drysau. Sylwir ar eich ymroddiad, a byddwch bob amser yn dal lle arbennig yn ein calonnau.

 “Rhys –dy garu am byth, dy golli am byth, byth yn angof.”

 Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch o waelod calon i deulu Rhys am eich cefnogaeth barhaus i Ward Cilgerran. Rydym mor ddiolchgar am y fainc newydd, a fydd yn dod â chysur i gynifer o deuluoedd.

 “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

 Am ragor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff yr GIG yn lleol, ewch i  hywelddahealthcharities.nhs.wales

 

 

 

You cannot copy any content of this page