Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi enwau 33 o lysgenhadon newydd ar draws 19 ysgol uwchradd yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027.
Rôl y llysgenhadon fydd codi ymwybyddiaeth ymhlith eu cyd-ddisgyblion a phobl ifanc o fanteision parhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol.
Ymhlith y criw newydd eleni mae Faith Ssemmanda, disgybl chweched ddosbarth yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli. Mae’r Gymraeg wedi bod yn rhan annatod o fywyd Faith ers iddi ddechrau yn yr ysgol, gan chwarae rhan bwysig yn ei haddysg, ei diddordebau a’i swydd. Yn y dyfodol, mae’n gobeithio datblygu gyrfa fel nyrs.
Dywedodd Faith:
“Dw i’n falch iawn o allu siarad Cymraeg. Mae wedi rhoi cyfleoedd gwych i mi, gan gynnwys cystadlu mewn Eisteddfodau a’i defnyddio yn fy swydd ran-amser mewn fferyllfa. Pan fydd cwsmeriaid yn dod i mewn ac yn dweud ‘bore da’, mae’n braf gallu ateb yn Gymraeg. Weithiau, dydyn nhw ddim yn disgwyl i mi siarad Cymraeg, ac mae hynny’n gyfle i ddangos bod yr iaith yn perthyn i bawb.
“Fel llysgennad, dw i am rannu’r neges fod lle i bawb yn y gymuned Gymraeg, beth bynnag fo’u cefndir neu ddiwylliant.”
Mae Ianto Lloyd o Ysgol Aberaeron hefyd wedi cael ei ddewis i fod yn llysgennad Ysgol i’r Coleg. Ar ôl cwblhau ei Lefel A, mae’n gobeithio mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Milfeddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel llysgennad, mae Ianto yn gobeithio dylanwadu ar fechgyn ifanc eraill i weld gwerth y Gymraeg drwy chwaraeon. Dywedodd:
“Mae’r Gymraeg yn rhan naturiol o’m bywyd. Ond mae angen gwneud mwy i annog pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg a gweld ei gwerth yn yr ysgol a thu hwnt. Dw i’n hoff iawn o focsio ac enillais deitl Pencampwriaeth Cymru yn 2023. Dw i hefyd wedi dechrau cystadlu mewn CaniX, sef rasio traws gwlad gyda chi, ac wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau ledled y DU.”
“Fel llysgennad, dw i eisiau dangos nad oes unrhyw gyfyngiadau ar y Gymraeg. Mae pobl o bob cefndir, gyda phob math o ddiddordebau, yn gallu mwynhau a defnyddio’r Gymraeg, ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu.”
Mae Efa Davies o Ysgol Bro Teifi hefyd wedi ei phenodi yn un o lysgenhadon y Coleg eleni. Drama yw un o brif ddiddordebau Efa, ac mae’n angerddol am fod yn athrawes ddrama mewn ysgol Gymraeg yn y dyfodol. Dywedodd:
“Dw i wrth fy modd yn cael y cyfle i fod yn lysgennad i’r Coleg eleni oherwydd dw i’n teimlo’n gryf am bwysigrwydd y Gymraeg a’r cyfleoedd y gall eu cynnig i bobl ifanc.”
“Rwy’n gobeithio bod yn ddylanwad positif ar bobl ifanc a dangos bod llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith mewn ffordd ysgafn a hwyl.
Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau a’m profiad wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau a digwyddiadau’r Coleg dros y flwyddyn nesaf.”
Bydd rôl y llysgenhadon yn dechrau’n syth, a bydd y gwaith yn cynnwys rhannu negeseuon yn eu hysgol am fanteision defnyddio’r Gymraeg, cynrychioli’r Coleg a’u hysgol mewn digwyddiadau cenedlaethol amrywiol, yn ogystal â chreu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol i ddylanwadu ar eu cyfoedion.
Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Marchnata’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Hoffwn longyfarch y 33 disgybl ar eu penodiad i gynrychioli eu hysgolion fel llysgenhadon y Coleg Cymraeg eleni. Cafwyd y nifer uchaf erioed o geisiadau eleni, sy’n adlewyrchu poblogrwydd y cynllun. Mae’r llysgenhadon newydd yn cynrychioli ystod eang o gefndiroedd, diddordebau a dyheadau gyrfaol. Maent yn dangos yn glir fod y Gymraeg yn iaith sy’n perthyn i bawb ac sy’n gallu agor drysau mewn pob math o feysydd.”
“Dros y flwyddyn nesaf, bydd y disgyblion yn cael amrywiaeth o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a chreadigol. Byddant yn magu hyder, yn gwneud cysylltiadau newydd ac yn ennill profiadau gwerthfawr a fydd o fudd iddynt yn y dyfodol.
“Rydym ni yn y Coleg Cymraeg yn elwa’n fawr ar eu gwaith wrth ddylanwadu ar eu cyfoedion i werthfawrogi’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y Gymraeg.”
I ddarganfod mwy am y llysgenhadon ac i ddilyn eu gwaith yn ystod y flwyddyn, ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg Cymraeg.
TikTok, Instagram, Linked In, a Facebook: @colegcymraeg