Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Dechrau rhoi pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref heddiw yng Nghymru

MAE’R broses o gyflwyno pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref wedi dechrau heddiw (1 Medi) yng Nghymru gyda phreswylwyr a staff cartrefi gofal ledled Cymru y rhai cyntaf i gael y brechlyn.

Bydd pawb sy’n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu yr hydref yn cael eu gwahodd am frechiad gan eu byrddau iechyd. Bydd gwahoddiadau’n cael eu rhoi yn nhrefn y rhai mwyaf agored i niwed, gyda phawb sy’n gymwys yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu erbyn diwedd mis Rhagfyr.

Bydd y brechlyn yn helpu i gefnogi imiwnedd pawb sydd mewn mwy o berygl rhag COVID-19, gan wella eu hamddiffyniad rhag salwch difrifol. Bydd hyn yn helpu i gefnogi’r GIG hefyd yn ystod gaeaf 2022-23.

Yr hydref hwn, yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd un dos o’r pigiad atgyfnerthu COVID-19 yn cael ei gynnig i’r bobl ganlynol:

Preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn;

Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flamen;

Pob oedolyn 50 oed a hŷn;

Pobl rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg glinigol;

Pobl rhwng 5 a 49 oed sy’n gyswllt cartref i bobl sydd â system imiwnedd wan; a

Pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr.

Yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, bydd oedolion cymwys 18 oed a hŷn yn cael cynnig y brechlyn Moderna i ddechrau sy’n eu hamddiffyn rhag y straen gwreiddiol COVID-19 a’r amrywiolyn Omicron. Bydd y rhai sy’n gymwys o dan 18 oed yn cael cynnig y brechlyn Pfizer. Bydd y ddau frechlyn yn cael eu cynnig o leiaf tri mis ar ôl dos blaenorol.

Bydd y brechlynnau’n cael eu darparu mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys meddygfeydd a chanolfannau brechu.

Bydd strategaeth frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn sicrhau bod pawb sy’n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu yr hydref hefyd yn cael eu hamddiffyn rhag ffliw tymhorol – mae pobl yn cael eu hannog i fanteisio ar y brechiad rhag y ffliw pan gaiff ei gynnig. Bydd pawb sy’n gymwys ar gyfer y brechiad rhag y ffliw yn cael ei gynnig cyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Bydd ein rhaglen frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau rhag ffliw a COVID-19 y gaeaf hwn. Bydd yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yn dechrau gyda phobl mewn cartrefi gofal, ochr yn ochr â’r rhai sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a’r sector gofal cymdeithasol.

Mae brechlynnau wedi cael effaith enfawr ar gwrs y pandemig – maent wedi achub bywydau di-rif ac wedi rhoi’r rhyddid a’r hyder inni ailgychwyn ein bywydau.
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a sefydliadau eraill a fydd unwaith eto yn arwain ymdrechion i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed drwy frechu.

Byddwn yn cynnig rhaglen ffliw estynedig unwaith eto eleni, gydag 1.5 miliwn o bobl yn gymwys am frechiad am ddim.

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i dderbyn eu gwahoddiad i helpu eu hunain.

Bydd pob oedolyn sy’n gymwys yn cael eu gwahodd am eu pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref drwy lythyr a neges destun oddi wrth eu bwrdd iechyd erbyn mis Rhagfyr a gofynnaf i bobl beidio â chysylltu â’u meddygfa am eu gwahoddiad fel eu bod yn gallu parhau i ganolbwyntio ar ofalu am iechyd pobl.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page