Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Bwrdd iechyd yn cael ei gydnabod am ei agwedd tuag at iechyd a llesiant staff

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael ei gydnabod am gefnogi a hybu iechyd a lles ei staff drwy raglen Cymru Iach ar Waith

Mae cynllun gwobrau’r rhaglen yn cael ei gydnabod fel y nod ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a llesiant yn y gweithle. Mae’r achrediad hwn yn dangos bod y bwrdd iechyd wedi cynnal ei lefel dyfarniad Safon Iechyd Gorfforaethol bresennol yn llwyddiannus, drwy ei ymrwymiad parhaus i arferion gwaith, mentrau a chymorth iachus.

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol: “Rwyf yn falch iawn o dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol i’n gwaith ar iechyd a llesiant staff. Mae’r wobr hon yn dangos y gwaith caled a’r ymroddiad y mae ein staff yn ei wneud bob dydd i geisio gwneud gwahaniaethau cadarnhaol i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu a’r cydweithwyr rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw.”

Drwy gydol y pandemig, bu timau Gweithlu a Datblygu Sefydliadol y bwrdd iechyd yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod gan staff fynediad at ystod eang o gymorth. Mae creu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Llesiant wedi bod yn allweddol i sicrhau bod cydweithwyr yn gwybod sut a ble i gael cymorth. Mae Gwasanaeth Llesiant Seicolegol y Staff hefyd wedi datblygu cyfoeth o adnoddau i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar staff.

Mae’r tîm Diwylliant a Phrofiad y Gweithlu sydd newydd ei ffurfio hefyd wedi cyflwyno cyfres o raglenni yn ddiweddar i gefnogi llesiant ariannol ac addysg ar gyfer ei holl staff.

Mae rhagor o wybodaeth am y Safon Iechyd Gorfforaethol ar gael yma https://phw.nhs.wales/services-and-teams/healthy-working-wales/


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page