Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Cais Grant llwyddiannus i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn creu Cyfleon Newydd i Mudiad Meithrin

Mae Mudiad Meithrin yn dathlu fod eu cais am grant i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am bron i £497,000 wedi bod yn llwyddiannus i wireddu prosiect cwbl newydd i gefnogi eu gwaith am gyfnod o 3 blynedd.

Meddai Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:
“Ry’n i wrth ein boddau ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a fydd yn ein galluogi i benodi tair swydd newydd i wireddu prosiect arbennig i ddatblygu cynnwys ar gyfer sefydlu sianel YouTube Cymraeg newydd i deuluoedd. Y nod yw adeiladu ar boblogrwydd cymeriadau unigryw Mudiad Meithrin, Dewin a Doti, i ddatblygu platfform agored, diogel a difyr o gynnwys addysgiadol, amrywiol a hwyliog.”

Bydd y prosiect yn digwydd dros gyfnod o dair blynedd, a’r bwriad yw cydweithio gyda staff, teuluoedd a chymunedau i gyd-gynhyrchu cynnwys i gyflwyno amrywiaeth o fideos addysgiadol a straeon difyr yn seiliedig ar weithgareddau hwyliog i blant i annog teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Rydym wrth ein boddau bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cydnabod ein gwaith fel hyn. Nawr, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol byddwn yn gallu bwrw mlaen gyda’r cynllun trwy hysbysebu tair swydd newydd i wireddu’r prosiect. Mae derbyn yr arian yma yn mynd i wneud cymaint o wahaniaeth i’n gwaith i gyflwyno’r Gymraeg i blant a theuluoedd, yn enwedig i deuluoedd nad oes ganddynt fodd i fynychu ein darpariaethau ar hyn o bryd am amryfal resymau. Bydd y grant yn ein galluogi i ddatblygu llyfrgell o ffilmiau addysgiadol amrywiol yn seiliedig ar weithgareddau grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi, a Chylchoedd Meithrin i annog teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant. I wireddu’r prosiect yn llwyddiannus mi fydd cydweithredu â phartneriaid cymunedol amrywiol yn allweddol i gyrraedd y nod a byddwn yn annog cyfraniadau gan unigolion a sefydliadau eraill ledled Cymru.”

Bydd y tair swydd newydd yn cael eu hysbysebu’n fuan ar wefan Mudiad Meithrin – www.meithrin.cymru/swyddi


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

The editor for Carmarthenshire News Online ensures all our articles and posts are vetted for mistakes as well as ensuring that everything written and drafted for publication is 100% accurate and contains all the facts and figures.

You cannot copy any content of this page