Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Elusen y GIG yn ariannu mowldiau castio llaw a throed ar gyfer teuluoedd sy’n galaru

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu deunyddiau i wneud mowldiau castio llaw a throed 3D ar gyfer teuluoedd a gefnogir gan y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.

Mae’r deunyddiau wedi’u hariannu gan roddion i’r Gronfa Ddymuniadau, ymgyrch sy’n creu atgofion i’r plant a’r bobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd ac sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd.

Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym mor ddiolchgar am y rhoddion i’r Gronfa Ddymuniadau sydd wedi caniatáu i ni brynu’r deunyddiau sy’n ein galluogi i wneud mowldiau 3D ar gyfer y teuluoedd rydym yn eu cefnogi.

“Diolch i’r cyllid hwn, gallwn ddarparu mowldiau 3D llaw a throed o’r plant a’r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi i’w teuluoedd eu cadw. Fe’u rhoddir ar gyfer achlysuron arbennig fel pen-blwydd neu Nadolig.

“Mae’r eitemau cofrodd hyn yn ystyrlon iawn i’r teuluoedd rydyn ni’n eu cefnogi. Maent yn annwyl ac yn gymorth hanfodol yn y broses alaru.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn am roddion i’r Gronfa Ddymuniadau sydd wedi ein galluogi i brynu eitemau mor bwysig i deuluoedd a gefnogir gan y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dysgwch fwy am sut y gallwch gefnogi’r gwasanaethau hyn yma: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/y-gronfa-dymuniadau/

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Isobel Tierney, a BA graduate and current MA student of Aberystwyth University has joined us as one of our junior journalists. Isobel's focus is on conservation, environmental regeneration and biodiversity. This portfolio of stories reflects her strong commitment to spreading awareness for sustainability and protecting wildlife as well as women's health and wellbeing, women's safety and the protection of wild and domestic animals.

You cannot copy any content of this page