Rhodd elusennol yn trawsnewid ystafell aros yn Uned Ddydd Cemotherapi Glangwili

Yn y llun: Brian Slate, Gareth Cowley a Ron Davies o Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru gyda staff Uned Cemotherapi Glangwili

Diolch i rodd hael o £26,273 gan Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi gallu ariannu gwaith adnewyddu sylweddol i ystafell aros y cleifion a’r gegin gyfagos yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili.

Mae Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru yn grŵp o wirfoddolwyr dan arweiniad cleifion sy’n gweithio yng Ngorllewin a De-orllewin Cymru. Maent yn cynnig cymorth i gleifion canser y prostad a’u teuluoedd a’u ffrindiau.

Mae’r trawsnewidiad wedi creu amgylchedd mwy cyfforddus, croesawgar a thawel i gleifion sy’n cael triniaeth yn yr uned, yn ogystal ag i deuluoedd a gofalwyr sy’n dod gyda nhw i apwyntiadau.

Yn flaenorol, roedd yr ardal aros yn hen ffasiwn, yn dywyll ac yn annymunol, yn groes i’r gofal tosturiol a ddarperir yn yr uned. Yn aml, mae cleifion yn treulio cyfnodau hir yn y gofod hwn cyn triniaeth neu apwyntiadau clinig, ac nid oedd y dodrefn hen ffasiwn a’r ymddangosiad blinedig yn creu’r amgylchedd mwyaf cyfforddus na chroesawgar.

Roedd y prosiect adnewyddu yn cynnwys cael gwared ar hen ddodrefn, ailaddurno’n llwyr, gosod lloriau a nenfwd newydd, prynu dodrefn cyfforddus, ac ychwanegu gwaith celf newydd i wella’r gofod.

 

Yn y llun: Yr ystafell aros wedi’i hadnewyddu yn Uned Cemotherapi Glangwili

Dywedodd Gina Beard, Prif Nyrs Canser: “Rydym mor ddiolchgar bod y rhodd gan Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru wedi ein galluogi i drawsnewid y lle.

“Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cleifion. Rydym wedi gallu creu lle sy’n teimlo’n llai clinigol ac yn fwy cysurus. Mae’r lliwiau tawelu a’r seddi cyfforddus yn helpu i leddfu pryder a gwneud amser anodd ychydig yn fwy goddefadwy i gleifion a’u hanwyliaid.”

Ychwanegodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru am eu rhodd. Mae eich haelioni wedi ein galluogi i greu lle dymunol ac ymlaciol i gleifion a’u teuluoedd.”

I ddysgu mwy am Elusennau Iechyd Hywel Dda a sut y gallwch chi gefnogi cleifion a staff y GIG ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro, ewch i: https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/

 

You cannot copy any content of this page