| Mae Diffoddwyr Tân Gorsaf Dân Y Tymbl yn edrych ymlaen at groesawu’r gymuned leol i’w Diwrnod Agored blynyddol ddydd Sadwrn, Awst 29ain, o 10.30yb hyd at 4yp. |
| Mae’r digwyddiad teuluol rhad ac am ddim yn addo diwrnod llawn hwyl i bob oed, gan gynnig cyfle i ymwelwyr gwrdd â’u Diffoddwyr Tân lleol, dysgu mwy am waith hanfodol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau ac atyniadau.
Bydd yna ddigon i’w weld a’i wneud, gan gynnwys: 🌭 Barbeciw 🚒 Arddangosiadau byw 👨👩👧👦 Hwyl i bob oed Mae’r Diwrnod Agored yn rhoi cyfle i drigolion ymgysylltu â’u criw tân lleol, dysgu mwy am ddiogelwch tân a gwaith atal cymunedol, a chael gwell dealltwriaeth o’r rôl y mae Diffoddwyr Tân yn ei chwarae wrth gadw cymunedau lleol yn ddiogel. Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau i ymuno â’r Diffoddwyr Tân am ddiwrnod hwylus o ymgysylltu â’r gymuned ac adloniant teuluol. Dyddiad: Dydd Sadwrn, Awst 29ain Amser: 10.30yb – 4yp Lleoliad: Gorsaf Dân Y Tymbl, Heol Llety, Y Tymbl, Sir Gaerfyrddin, SA14 6BN Mynediad: Am ddim |
Gorsaf Dân y Tymbl yn Gwahodd y Gymuned i Ddiwrnod Agored