Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymestyn tri chynllun cymorth tai, gan ailddatgan ei hymrwymiad i wneud perchentyaeth yn fwy hygyrch a fforddiadwy i bobl ledled Cymru.
Bydd Cymorth i Brynu – Cymru yn parhau tan 31 Mawrth 2027, gan roi cyfle i hyd at 400 yn fwy o aelwydydd brynu cartref newydd gyda blaendal llai. Mae’r cynllun wedi bod yn llwybr hanfodol i berchentyaeth i lawer, yn enwedig prynwyr tro cyntaf sy’n wynebu rhwystrau sylweddol yn y farchnad dai bresennol.
Ar yr un pryd, bydd y Grant Cartrefi Gwag yn cael ei ymestyn tan ddiwedd mis Mawrth, gan ariannu adnewyddu hyd at 300 eiddo gwag a throi adeiladau sydd wedi’u hesgeuluso yn gartrefi teuluol diogel, ynni-effeithlon.
Bydd y cynllun Cymorth i Aros – Cymru hefyd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2027, gan ddarparu cymorth i berchnogion tai sy’n cael trafferth cwrdd â’u taliadau morgais. Mae’r estyniad hwn yn adeiladu ar ymrwymiad cynllun 100 diwrnod Llywodraeth Cymru i helpu teuluoedd drwy’r argyfwng costau byw parhaus.
Gyda’i gilydd, mae’r tri chynllun yn ymrwymiad sylweddol ac eang i bobl Cymru — gan gyfuno cymorth i gartrefi wedi’u hadeiladu o’r newydd, grantiau i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto, a chymorth i berchnogion tai presennol sy’n cael trafferth gyda chostau morgais.
Ymwelodd Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, â Pharc Hollybrook yng Nghei Connah yn ddiweddar i gwrdd â thrigolion a brynodd gartref drwy Cymorth i Brynu Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i’r egwyddor bod pob teulu yn haeddu cartref diogel a fforddiadwy i fyw ynddo. Mae cynyddu’r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol yn un ffordd o gyflawni hyn ac rydym wedi cyhoeddi ein targed o 20,000 o gartrefi ychwanegol.
“Rydym hefyd yn cynnig cymorth wedi’i dargedu i’r rhai sy’n berchen ar eu cartrefi neu sy’n dymuno bod yn berchen ar eu cartrefi – opsiwn nad yw’n fforddiadwy nac yn hygyrch i lawer wrth i brisiau barhau i godi y tu hwnt i gyrrhaeddiad pobl leol mewn sawl rhan o Gymru. Heddiw rwy’n cyhoeddi estyniad i dri chynllun sy’n cefnogi pobl sy’n prynu eu cartref cyntaf, yn helpu teuluoedd rhag colli eu cartrefi ac yn helpu i adnewyddu eiddo gwag yn gartrefi.
Dywedodd Louisa Edwards, Rheolwr Marchnata yn Edwards Homes Cyf:
“Rydym yn croesawu estyniad cynllun Cymorth i Brynu – Cymru tan 31 Mawrth 2027.
“Mae hyn yn newyddion gwych i brynwyr tro cyntaf, gan ddarparu cymorth parhaus i’w helpu i brynu cartref newydd yng Nghymru.
“Hyd yn hyn, mae 45% o werthiannau Edwards Homes wedi’u gwneud drwy gynllun Cymorth i Brynu – Cymru, sy’n dangos pa mor bwysig a gwerthfawr y mae wedi bod wrth helpu pobl i gymryd eu cam cyntaf ar yr ysgol eiddo.”