BYDD gan y Prif Swyddog Proffesiynau Perthynol i Iechyd newydd rôl arweinyddiaeth hollbwysig, wrth inni symud tuag at ofal ataliol yn y gymuned.
Yn ei rôl newydd, bydd Gareth Evans yn darparu arweinyddiaeth a chyngor proffesiynol arbenigol ar gyfraniad gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a’r system ehangach.
Mae’r gweithwyr hyn yn cynrychioli 13 o broffesiynau unigol. Maent yn rhan sylweddol o’r gweithlu ar draws y GIG, gofal cymdeithasol, ysgolion, tai a’r system iechyd a gofal ehangach. Ymhlith y proffesiynau hyn mae ffisiotherapyddion, seicolegwyr clinigol, deietegwyr, podiatryddion a therapyddion iaith a lleferydd.
Mae rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn hanfodol ym meysydd atal, ymyrraeth gynnar, adsefydlu, ailalluogi, adferiad a rheoli cyflyrau hirdymor. Maent yn helpu pobl i aros yn iach, i wella ac i fyw mor annibynnol ag y bo modd.
Yn bodiatrydd wrth ei alwedigaeth, mae gan Gareth Evans brofiad helaeth o weithio ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal.
Dywedodd y Prif Swyddog Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Gareth Evans: “Yn y rôl hon, mi fydda i’n cryfhau cyfraniad y Proffesiynau Perthynol i Iechyd ledled Cymru, wrth inni symud tuag at ofal yn y gymuned. Dw i’n edrych ymlaen at hyrwyddo a chynrychioli’r proffesiwn yng Nghymru. Dw i hefyd wedi ymrwymo i ddarparu arweinyddiaeth a chyngor proffesiynol arbenigol, er mwyn cefnogi cyfraniad gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a’r system ehangach.”
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor: “Dw i’n falch ein bod ni wedi symud yn gyflym i wneud y penodiad hwn. Mae’r sector Proffesiynau Perthynol i Iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn ein system iechyd. Mae codi ei broffil yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon. Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda Gareth Evans i gyflawni ein huchelgeisiau, a gwella canlyniadau i bobl yng Nghymru. Wrth inni ganolbwyntio ar iechyd ataliol, mae’n bwysig bod cyfraniad y Proffesiynau Perthynol i Iechyd i’w weld ar draws y system iechyd a gofal.”