Tîm Hepatoleg Ceredigion yn paratoi i ymgymryd â her llwybr yr arfordir

Bydd staff o Wasanaeth Hepatoleg Ceredigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwisgo eu hesgidiau cerdded ym mis Medi hwn wrth iddynt ymgymryd â’r her o gerdded Llwybr Arfordir Ceredigion i godi ymwybyddiaeth o glefyd brasterog yr afu.

Bydd yr her ysbrydoledig hon yn eu profi’n gorfforol ac yn feddyliol wrth iddynt daflu goleuni ar gyflwr sy’n effeithio ar filiynau o bobl.

Yn ogystal â chwblhau’r daith gerdded, bydd y tîm yn stopio mewn lleoliadau ar hyd y llwybr i helpu i addysgu’r cyhoedd am glefyd brasterog yr afu, un o’r lladdwyr mwyaf yn y DU.

Ymunwch â nhw am sgwrs a sesiwn Holi ac Ateb ar Bromenâd Aberystwyth ddydd Gwener 25 Medi, ac eto yn y prif faes yn Aberaeron ddydd Sadwrn 26 Medi, lle byddant yn rhannu gwybodaeth, yn codi ymwybyddiaeth ac yn ateb cwestiynau.

Dywedodd Paige Denyer, Swyddog Cymorth Codi Arian: “Am her wych. Edrychwn ymlaen at ddilyn eu taith ar hyd Llwybr Arfordirol Ceredigion.

“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, cânt eu defnyddio i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, fel amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, ac offer cyfoes.”

Gallwch gyfrannu at eu digwyddiad codi arian yma: Https://www.justgiving.com/page/ceredigionhepatology?utm_medium=FR&utm_source=CL

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.

You cannot copy any content of this page