Llun: Cyngor Sir Caerfyrddin
MAE Parc Gwledig Pen-bre, Parc Gwledig Llyn Llech Owain a Pharc Coetir y Mynydd Mawr wedi ennill statws Gwobr y Faner Werdd unwaith eto, gan gydnabod eu bod ymhlith y mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli orau yn y wlad.
Cyhoeddodd Cadwch Gymru’n Daclus heddiw fod 330 o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru wedi bodloni’r safonau uchel angenrheidiol i ennill statws y Faner Werdd yn 2026, sef y nifer uchaf erioed. O’r rhain, mae 93 o safleoedd wedi derbyn statws llawn Gwobr y Faner Werdd ac mae 237 wedi ennill statws Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.
Mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n groesawgar, yn ddiogel, yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda a’u rheoli yn unol â safonau amgylcheddol uchel.
Mae Parc Gwledig Pen-bre, Parc Gwledig Llyn Llech Owain a Pharc Coetir y Mynydd Mawr i gyd wedi derbyn statws llawn y Faner Werdd, sy’n adlewyrchu ansawdd y cyfleusterau, y tirweddau a’r profiad i ymwelwyr sy’n cael ei ddarparu ym mhob safle.
Mae’r tri pharc yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i drigolion ac ymwelwyr fwynhau’r awyr agored, gan gynnwys llwybrau cerdded a beicio, ardaloedd cadwraeth natur, cyfleusterau chwarae a mynediad i rai o dirweddau mwyaf nodedig Sir Gâr.
Mae Parc Gwledig Pen-bre yn cyfuno coetir helaeth â mynediad i Gefn Sidan, sef traeth tywodlyd wyth milltir o hyd, gan ei wneud yn un o gyrchfannau awyr agored mwyaf poblogaidd Sir Gâr.
Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain mewn 73 hectar o gefn gwlad. Mae’n cynnwys llwybrau natur, llwybrau beicio, lle chwarae i blant a chynefin mawnog o bwys cenedlaethol a ddynodwyd fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae Parc Coetir y Mynydd Mawr yng Nghwm Gwendraeth yn cynnig llwybrau cerdded hardd yn y coetir a golygfeydd ar draws y dirwedd gyfagos, yn ogystal ag arddangos treftadaeth ddiwydiannol ac adfywio amgylcheddol yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a’r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“Rydyn ni wrth ein bodd bod Parc Gwledig Pen-bre, Parc Gwledig Llyn Llech Owain a Pharc Coetir y Mynydd Mawr wedi cael eu cydnabod unwaith eto drwy Wobrau’r Faner Werdd. Mae’r cyflawniad hwn yn dangos ymrwymiad parhaus a gwaith caled ein staff a’n gwirfoddolwyr sy’n helpu i gynnal a chadw’r mannau gwyrdd gwerthfawr hyn i safon mor uchel.” Mae Gwobr y Faner Werdd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel y meincnod ar gyfer rhagoriaeth wrth reoli parciau a mannau gwyrdd.”
Yng Nghymru, Cadwch Gymru’n Daclus sy’n rheoli’r cynllun.
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Mae Cymru yn gosod y safon o ran mannau gwyrdd rhagorol, gyda 330 o leoedd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau’r Faner Werdd eleni. O barciau blaenllaw a choetiroedd bywiog i safleoedd hanesyddol a mannau cymunedol, mae Cymru wedi dangos o un flwyddyn i’r llall bod ganddi ymrwymiad diwyro i feithrin mannau gwyrdd cynhwysol y gall pawb eu mwynhau.
Mae mannau gwyrdd yn chwarae rhan hanfodol o ran cefnogi iechyd a llesiant cymunedau ledled Cymru a hoffen ni ddiolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n chwarae rhan wrth sicrhau bod y lleoedd arbennig hyn yn ffynnu a bod pawb yn gallu eu mwynhau.”