Datganiad ysgrifenedig Mabon ap Gwynfor AS, y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal:
Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad asesu annibynnol gan Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru fel rhan o’r cymorth ymyrraeth Lefel 4 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y bwrdd iechyd ei uwchgyfeirio i Lefel 4 ym mis Gorffennaf 2025 oherwydd diffyg ariannol cynyddol, ansawdd, amseroedd aros gofal a gynlluniwyd, heriau diwylliannol ac arweinyddiaeth. Ym mis Mawrth 2026, rhoes Llywodraeth flaenorol Cymru fframwaith uwchgyfeirio lefel 4 y cytunwyd arno i’r Bwrdd Iechyd yn nodi’r rhesymau dros uwchgyfeirio, yn ogystal â’r trefniadau ymyrraeth, cymorth a goruchwylio i’w cyflawni drwy Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Roedd cam cyntaf yr ymyrraeth yn cynnwys asesiad annibynnol i nodi achosion sylfaenol uwchgyfeirio, gan ganolbwyntio ar lywodraethiant, diwylliant sefydliadol ac arweinyddiaeth, ac effeithiolrwydd tebygol cynlluniau gwella ac adfer presennol. Cynhaliwyd yr asesiad gan ddau gynghorydd annibynnol sydd ag uwch brofiad o arweinyddiaeth weithredol a meddygol.
Daeth yr adroddiad i ben gyda chyhoeddi’r adroddiad sy’n nodi pryderon ar draws arweinyddiaeth, diwylliant, llywodraethiant, cynllunio a gallu sefydliadol sy’n annerbyniol ac y mae rhaid mynd i’r afael â hwy a hynny ar frys. Mae’r adroddiad yn glir bod heriau’r bwrdd iechyd yn systemig ac yn hirsefydlog, a bod angen gwaith ad-drefnu sefydliadol, un cynllun adfer, atebolrwydd cryfach, sicrwydd a newid diwylliannol. O dan y Llywodraeth newydd hon yng Nghymru, ni fyddwn yn caniatáu i faterion o’r fath barhau, a byddwn yn dal y bwrdd iechyd i gyfrif yn gadarn am ei berfformiad.
Er hynny, yn ogystal â mynd i’r afael â’r heriau, mae’n bwysig hefyd gydnabod meysydd lle mae gwelliant wedi’i wneud. Mae’r adroddiad yn nodi bod gweithlu ymroddedig a brwdfrydig sydd wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod diogelwch cleifion yn flaenoriaeth. Mae’n amlwg yn yr adroddiad bod staff wedi bod yn gweithio yn aml mewn amgylchiadau heriol ac anodd, ond yn parhau i ddarparu safonau gofal o ansawdd uchel. Rwy’n ddiolchgar am eu gwaith caled yn ogystal â’u cyfraniadau at yr adroddiad hwn a’u dymuniad i gefnogi’r newid y mae ei angen.
Er gwaethaf canfyddiadau’r adroddiad, mae’r bwrdd iechyd yn parhau i ddangos meysydd o arferion da a pherfformiad, gan gynnwys gofal brys a gofal argyfwng a gwasanaethau arbenigol. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi gwelliannau ym maes goruchwylio a datblygu’r bwrdd o dan y Cadeirydd newydd. Er ei bod yn glir bod tipyn o ffordd i fynd i sicrhau bod perfformiad cyffredinol y bwrdd yn cyrraedd y lefel y byddem ni fel Llywodraeth a’r cyhoedd yn ei disgwyl, rwyf yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn y meysydd hyn.
Ar ôl cael yr adroddiad, bydd yr ymyrraeth cam dau yn cefnogi’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr Dros Dro sydd newydd ei benodi i gytuno ar ffordd glir ymlaen i’r sefydliad. Rwyf yn disgwyl i’r bwrdd iechyd gydweithio’n agos â Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru i ddatblygu a chyflwyno un cynllun gwella ar draws y sefydliad sy’n ymateb i’r argymhellion, yn mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol sy’n peri pryder, ac yn nodi camau gweithredu, cerrig milltir a threfniadau atebolrwydd cryfach sy’n cyd-fynd â’r fframwaith uwchgyfeirio a’r meini prawf isgyfeirio.
Byddaf yn cadeirio cyfarfod â’r bwrdd iechyd ym mis Tachwedd 2026 i adolygu’r cynnydd yn erbyn canfyddiadau’r adroddiad a’r fframwaith uwchgyfeirio ehangach. Rwyf yn disgwyl gweld gwelliannau parhaus ar draws pob maes o dan drefniadau ymyrraeth, a’r sicrwydd y gellir eu hymgorffori yn barhaus.
Yn unol â’n cynllun 100 Diwrnod Cyntaf, rydym hefyd wrthi’n adolygu’r fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth presennol i sicrhau y gall gefnogi gwelliannau ym mherfformiad y bwrdd iechyd yn well.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.