Camodd staff a disgyblion o Ysgol Gynradd Tycroes ymlaen i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw gyda diabetes drwy godi swm anhygoel o £1,143 ar gyfer Gwasanaeth Diabetes Pediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Trefnodd Carly Price, aelod o staff yn yr ysgol, Step-a-Thon noddedig yn ystod wythnos diabetes ym mis Mehefin i roi rhywbeth yn ôl i’r gwasanaeth sydd wedi helpu ei dau blentyn, Jenson ac Aria, a gafodd ddiagnosis o ddiabetes o fewn mis yn unig i’w gilydd.
Anogodd yr her ddisgyblion a staff i symud wrth godi ymwybyddiaeth o ddiabetes ac arian ar gyfer y Gwasanaeth Diabetes Pediatrig sy’n helpu i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw gyda diabetes ar draws Hywel Dda.
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Carly, Jenson ac Aria am drefnu Step-a-Thon mor wych i gefnogi’r Gwasanaeth Diabetes Pediatrig.
“Mae eich gwaith caled a’ch ymroddiad wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Hoffem hefyd longyfarch pawb yn Ysgol Tycroes am gymryd rhan a helpu i godi swm mor anhygoel o arian. Bydd pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a phobl ifanc sy’n byw gyda diabetes, ac rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth. Da iawn bawb!
“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn lle hynny, fe’u defnyddir i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG.”
Mae Carly hefyd yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er budd yr Uned Ddiabetes yn Ysbyty Glangwili. Cyfrannwch at ei hymgyrch codi arian yma: https://hyweldda.enthuse.com/pf/carly-price
Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.