‘Rhaid i Lywodraeth y DU roi mwy o bwerau cyllidol i Gymru i greu swyddi da a thyfu ein heconomi’ – Plaid Cymru

Mewn ymateb i araith fawr gyntaf John Healey fel Canghellor, dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS:

“Prin oedd cyfeiriad y Canghellor yn ei araith heddiw at Gymru a’n potensial economaidd. Bydd hyn yn siomedig i lawer sydd wedi bod yn gobeithio am newid o dan Lywodraeth newydd Burnham.

“Yn ganolog i’r araith heddiw oedd datganoli pwerau i gymunedau Lloegr. Yn anffodus, ychydig iawn o sôn a fu am yr angen am y grym cyllidol i ddatgloi potensial economi Cymru hefyd.

“Mae potensial economaidd Cymru yn sylweddol, ac mae ein cymunedau’n gyfoethog o ran cyfleoedd, o ynni adnewyddadwy i weithgynhyrchu uwch. Fodd bynnag, yn rhy aml mae penderfyniadau buddsoddi allweddol yn cael eu gwneud yn San Steffan, ac mae’r cyfoeth a gynhyrchwn yn gadael ein cymunedau.

“Os yw’r Canghellor o ddifrif ynglŷn â throi cornel, rhaid i Gyllideb yr Hydref roi’r pwerau buddsoddi a chyllidol sydd eu hangen arnom i greu swyddi da, tyfu ein heconomi a chadw mwy o’r cyfoeth a gynhyrchwn yma yng Nghymru.”

You cannot copy any content of this page