Mae rhestr fer trydydd seremoni flynyddol Gwobrau Caru Ceredigion 2026 wedi’i chyhoeddi, gan ddathlu cyflawniadau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ledled Ceredigion.
Trefnir y gwobrau gan Cynnal y Cardi o dan faner Caru Ceredigion, ac maent yn cydnabod y bobl a’r sefydliadau sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i economi, cymunedau ac amgylchedd y sir.
Denodd gwobrau eleni amrywiaeth drawiadol o geisiadau, yn amrywio o fentrau cymunedol a digwyddiadau sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr ac sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn lleol, i fusnesau arloesol ac entrepreneuriaid ifanc sy’n helpu i roi Ceredigion ar y map.
Roedd y panel o feirniaid wedi eu plesio’n fawr gan ansawdd ac amrywiaeth y ceisiadau ar gyfer y gwobrau s’yn tynnu sylw at y talent, yr arloesedd a’r gwytnwch o fewn cymunedau, mudiadau a busenesau Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb anhygoel ac ansawdd uchel y ceisiadau a ddaeth i law eleni. Mae Ceredigion yn gartref i rai busnesau rhagorol, entrepreneuriaid ifanc talentog a phrosiectau cymunedol ysbrydoledig, ac mae’r gwobrau hyn yn gyfle gwych i ddathlu eu llwyddiannau.
“Mae ehangder y dalent, yr arloesedd a’r ysbryd cymunedol a ddangoswyd drwy enwebiadau eleni wedi bod yn drawiadol iawn. Hoffwn ddiolch i bawb a gyflwynodd gais a llongyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Dymunaf y gorau o lwc iddynt yn y rownd derfynol.”
Ymgyrch sy’n cael ei harwain gan y gymuned yw Caru Ceredigion, sy’n annog balchder yn y sir ac yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella’r amgylchedd, yn cefnogi busnesau lleol ac yn cryfhau cymunedau.
Mae Cynnal y Cardi yn cefnogi busnesau a chymunedau ledled Ceredigion, gan helpu i fynd i’r afael â heriau economaidd, creu cyfleoedd a datblygu economi leol gryfach a mwy cynaliadwy.
Mae’r rhestr lawn o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gael yma: Gwobrau Caru Ceredigion 2026 – Cyngor Sir Ceredigion